Cwpan Her Ewrop: Gleision 16-10 Pau

gareth anscombe Image copyright Getty Images

Mae'r Gleision wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her Ewrop yn dilyn buddugoliaeth o 16-10 yn erbyn Pau.

Cafodd y Gleision y dechrau perffaith i'r gêm wrth i Seb Davies ganfod Gareth Anscombe gyda'r cefnwr yn tirio yn y gornel, a Jarrod Evans yn ychwanegu'r trosiad.

Methodd Tom Taylor gic gosb i Pau ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal wedi 20 munud ar ôl i gic Anscombe gael ei tharo lawr, gyda Conrad Smith yn manteisio a Taylor yn llwyddo yn eil ail ymgais at y pyst.

Llwyddodd Evans a Taylor gyda chic gosb yr un, cyn i Evans ychwanegu un arall i roi'r Gleision dri phwynt ar y blaen ar yr egwyl.

Brwydrodd Pau yn ôl yn yr ail hanner, ond er gwaethaf eu hymdrechion eu hunig wobr oedd cig gosb arall gafodd ei fethu gan Thibault Daubagna.

Gyda llai na 10 munud i fynd ciciodd Evans dri phwynt arall i roi'r Gleision chwe phwynt ar y blaen, a sicrhau'r fuddugoliaeth.

Fe fyddan nhw nawr yn herio Caerloyw yn ffeinal y Cwpan Her yn Bilbao, Sbaen ar 11 Mai.

Pynciau Cysylltiedig