Carwyn Jones: Edrych yn ôl ar 'ddegawd o ddelifro'

carwyn jones

O holl arweinwyr amryw lywodraethau Prydain, Carwyn Jones oedd y mwyaf hirhoedlog. Doedd neb wedi arwain prif blaid cyhyd ag o chwaith.

Bu'n rhan o'r Llywodraeth o ddyddiau cynnar y Cynulliad. Yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog yr Amgylchedd yn 2001 bu rhaid iddo ddygymod â chlwy traed-a'r-gennau, her a hanner i weinidog ifanc mewn sefydliad newydd.

Wrth dalu teyrnged i'w ragflaenydd, Rhodri Morgan, dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi gwerthfawrogi fod Mr Morgan wedi peidio ag ymyrryd gormod ar ei friff yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd hi'n fedydd tân, meddai, ond yn brofiad gwerthfawr.

Bu hefyd yn Weinidog Addysg am ddeufis ar ôl yr etholiad yn 2007, a bu'n rhan o'r trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru i ffurfio Llywodraeth Cymru'n Un.

Image caption Carwyn Jones oedd Gweinidog Amgylchedd Cymru yn ystod argyfwng clwy'r traed a'r gennau ar ddechrau'r ganrif

Unwaith cafodd y glymblaid ei ffurfio cafodd ei benodi i swydd y Cwnsler Cyffredinol, prif swyddog cyfreithiol y Llywodraeth - oedd yn manteisio ar ei brofiad cyfreithiol.

Ar 1 Rhagfyr 2009, pan enillodd y ras i olynu Rhodri Morgan fel arweinydd Llafur Cymru ac wedyn dod yn Brif Weinidog Cymru, doedd hi'n fawr o syndod - fo oedd y ffefryn.

Ond os oedd pobl yn disgwyl y byddai cyfnod Mr Jones wrth y llyw yn barhad o "ddŵr coch croyw" Mr Morgan, roedd yna dro ar fyd ar y gweill.

Tra bod Rhodri Morgan wedi canolbwyntio ar osod sylfaen gadarn i ddatganoli, bwriad Carwyn Jones oedd "delifro".

Image copyright PA
Image caption Bu Carwyn Jones yn rhan o'r trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru i ffurfio Llywodraeth Cymru'n Un

Yn ystod ei ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth, dywedodd Carwyn Jones ei fod am ganolbwyntio ar addysg a mynd i'r afael â thlodi plant.

Ond o fewn chwe mis iddo gyrraedd y brif swydd daeth newid.

Ym mlynyddoedd cynnar datganoli roedd yna gynnydd yn yr arian ddaeth o Lywodraeth y DU bob blwyddyn.

Felly doedd dim prinder ar yr adnoddau oedd ar gael i'w wario ar wella ysgolion, neu ar gynlluniau roedd y llywodraeth ym Mae Caerdydd am eu lansio.

Image caption Carwyn Jones gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog y DU ar y pryd, Stephen Crabb a David Cameron, yn ystod ymweliad Barack Obama â Chymru

Ond ym Mis Mai 2010 daeth Llywodraeth Geidwadol i rym yn San Steffan a dechrau ar ymgyrch o dorri nôl ar wariant cyhoeddus.

O ganlyniad, roedd angen i Carwyn Jones feddwl am sut i leihau gwariant. Roedd wedi addo y byddai'n diogelu gwariant ar ysgolion.

Un ateb oedd torri nôl ar wariant y gwasanaeth iechyd, ac yn 2011 gwelwyd cwtogiad o 7.6% yng nghyllideb y GIG yma.

Roedd yn fêl ar fysedd y gwrthbleidiau. Pan ddangosodd yr ystadegau fod targedau rhestrau aros yn cael eu methu, roedd rhai fel David Cameron yn gallu pwyntio bys at y penderfyniad i dorri'r gyllideb a honni fod Clawdd Offa yn ffin rhwng byw a marw.

Oedd hynny'n deg?

Efallai ddim - Roedd y gyllideb yng Nghymru wedi gwarchod gwariant ar wasanaethau cymdeithasol lle'r oedd Llywodraeth y DU wedi torri'n arw ar y gyllideb yn Lloegr. Ond weithiau tydi'r byd gwleidyddol ddim yn deg.

I Carwyn Jones roedd honno'n wers yr oedd wedi ei dysgu wrth astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod streic y glowyr - a dyna ysgogodd y gŵr ifanc o Ben-y-bont i ymuno â'r blaid Lafur.

Ar ôl graddio, llwyddodd i ddod yn fargyfreithiwr cyn troi ei sylw at y byd gwleidyddol; yn gyntaf fel cynghorydd ac yna, yn 1999 fel un o'r Aelodau Cynulliad ieuengaf, ac yntau'n 32 oed.

Image caption Fe gyflwynodd Brexit heriau newydd i Carwyn Jones

Bellach yn 51 oed, wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod wrth y llyw mae hi'n deg dweud mai cymysg yw ei lwyddiannau, gyda'i gefnogwyr a'i wrthwynebwyr yn gallu dethol tystiolaeth i gefnogi eu hachos.

Yn y gorffennol mae wedi awgrymu y byddai am roi'r gorau iddi ar ôl yr hyn alwodd yn "ddegawd o ddelifro" fyddai'n arwain ei gyfnod wrth y llyw at 2019.

Mae sawl Aelod Cynulliad wedi dweud fod Brexit wedi rhoi gwedd newydd ar wleidyddiaeth Carwyn Jones.

Lle'r oedd yna gwestiynau am ei awch i aros yn ei swydd, gyda Brexit roedd ganddo lwyfan newydd yr oedd am ei defnyddio; roedd ei bryder y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio tynnu grymoedd yn ôl oddi ar Aelodau Cynulliad wedi ailgynnau'r fflam.

Yn ystod cynhadledd flynyddol Llafur ym Mis Medi dywedodd Carwyn Jones ei fod am aros yn ei swydd tan yr etholiad nesaf yn 2021. Ond yn ôl yr hyn ddeallwn, dyna hefyd pryd y penderfynodd y byddai'n rhoi'r gorau iddi eleni.

Ond ers marwolaeth Carl Sargeant ym mis Tachwedd does dim dwywaith fod Carwyn Jones wedi wynebu cyfnod fwyaf heriol ei arweinyddiaeth.

Hyd yn hyn mae'r ymchwiliadau i'r amgylchiadau o beth ddigwyddodd wedi bod yn ffafriol i'r Prif Weinidog.

Image caption Mae'r cyfnod ers marwolaeth Carl Sargeant wedi bod yn heriol i Carwyn Jones a'i deulu

Yn breifat, mae'n debyg ei fod o'n ffyddiog dros ben y bydd yr ymchwiliad olaf, fydd yn edrych ar ei ymddygiad o wrth ddiswyddo Mr Sargeant, yn canfod ei fod wedi gwneud popeth yn unol â'r rheolau.

Ond, yn amlwg mae'r pum mis diwethaf wedi rhoi straen anferth ar deulu Carwyn Jones.

Y llynedd cafodd ei wraig, Lisa, salwch difrifol, ac mae'n deg dweud fod hynny wedi dylanwadu ar ei benderfyniad yn ogystal â phopeth arall sydd wedi digwydd.

Straeon perthnasol