Uwch Gynghrair: Manchester City 5-0 Abertawe

David Silva Image copyright Reuters

Mae Abertawe'n aros yn 17fed yn yr Uwch Gynghrair ar ôl colli'n drwm i Manchester City.

Ar ddiwrnod ble roedd City yn dathlu ennill y gynghrair, roedden nhw ddwy ar y blaen o fewn 16 munud diolch i goliau gan David Silva a Raheem Sterling.

Fe wnaeth ergyd Kevin de Bruyne o bellter ei gwneud hi'n dair wedi'r egwyl, cyn i Bernardo Silva ychwanegu pedwaredd wedi i Lukasz Fabanski arbed cic o'r smotyn Gabriel Jesus.

Llwyddodd Jesus i ganfod cefn y rhwyd yn y munudau olaf, wrth i'w beniad guro Fabianski i goroni'r fuddugoliaeth.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch dal pedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp gyda phedair gêm i fynd.

Pynciau Cysylltiedig