Y da, y drwg a'r doniol: Profiadau Eisteddfodol staff yr Urdd

Gyda llai na phythefnos i fynd tan Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, sy'n cychwyn ar 28 Mai, bu Cymru Fyw yn holi'r rhai sy'n trefnu ac yn gweithio i'r Mudiad am eu profiadau nhw o Eisteddfodau Urdd eu plentyndod...


Aled Siôn - Cyfarwyddwr yr Eisteddfod

Er fy mod yn Gyfarwyddwr ar ŵyl gelfyddydol, ac er bod gen i damed bach o dalent celfyddydol yn llifo trwy fy ngwythiennau, prin iawn oedd y cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd.

Un atgof sydd gen i yw mynychu Eisteddfod yr Urdd yng Nghastell Newydd Emlyn a'r maes yn fôr o fwd a chael llwyfan yng nghystadleuaeth y côr.

Roedd pawb, yn gystadleuwyr a chynulleidfa, yn fwd i gyd, gan nad oedd modd cyrraedd unrhyw le heb fynd trwyddo. Rwy'n credu bod fy welingtons dal yno rhywle.

Mae gen i ddigonedd o straeon eisteddfodol, ond fe fydd rhaid i chi aros tan yr hunangofiant (yn enwedig stori'r hen fenyw yn y toiledau, y plymar o Goed Duon a marwolaeth y Cwîn Myddyr).


Siân Lewis - Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru

Diffyg talent oedd fy mhroblem fwyaf! Does gen i ddim llais canu. O'n i wastad yn cyrraedd Côr 'B' Ysgol Bryntaf, yn fras, y côr ar gyfer y tone deaf!

Doedd gennai braidd dim dawn llefaru chwaith ond 'nes i lwyddo i gystadlu ar lefel y Steddfod Gylch ond es i byth yn bellach!

Ond roeddwn yn mynd i'r Eisteddfod yn flynyddol neu yn mwynhau ei wylio ar S4C a dilyn datblygiadau fy ffrindiau dawnus o soffa fy ystafell ffrynt!


Mali Thomas - Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Datblygu

Ches i fyth lwyfan tra'n cystadlu fel unigolyn, ond mae gen i un atgof melys a llwyddiannus o gystadlu.

Yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 1998, mi lwyddais i fod yn fuddugol, ar y prif lwyfan yn yr Eisteddfod... fel aelod o gôr cymysg Ysgol Penweddig.

Ond dim ots. Fi'n enillydd, a dyna ddiwedd arni!


Image copyright Irfon Bennett
Image caption Morys Gruffydd (chwith) gyda Gareth Owen, sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn yr Eisteddfod ac Aled Siôn (dde) yn awgrymu taw dim ond dwy waith y mae e wedi cystadlu

Morys Gruffydd - Trefnydd yr Eisteddfod

Mi fues i'n cystadlu llawer gydag Aelwyd Crymych, yng nghystadleuaeth y Noson Lawen. Y tro cyntaf ym Mhwllheli yn 1982. Dyna le ges i beint o shandy i frecwast ar ôl i holl aelodau Aelwyd Crymych gysgu dros nos ar lawr neuadd Sarn Mellteyrn.

Wnes i hefyd gystadlu yng nghystadleuaeth y Grŵp Roc yng Nghaerdydd yn 1985. Ail safle dwi'n credu gethon ni, a do, mi gethon ni gam! Dyna oedd diwedd fy ngyrfa fel rocyr.

Yng Ngŵyl Ddrama'r Urdd tua 1989 fi'n meddwl o'n i'n chwarae rhan y bachgen yn Wrth Aros Godot.

Dwi ddim yn cofio os enillon ni, dim ond cofio gorfod cludo coeden anferth ar y bws o le i le. Ar fws 52 sedd Midway Motors, roedd y bl*di goeden yn cymryd tua 40 o'r seddi.

Un tro yn unig dwi wedi mentro fel cystadleuydd unigol, ac wedi dod yn gyntaf. Roedd cystadleuaeth arbrofol i ddarganfod Cyfieithydd y Flwyddyn nôl ar ddechrau'r 90au. Taf Elai yn 1991 o bosib.

Roedd angen cystadlu drwy gyfieithu ar y pryd, ac nid yn unig enillais i, ges i hefyd fy nghyfweld gan Nic Parry ar S4C a Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru. Braint yn wir.

Ar ôl cyrraedd yr uchelfannau yn gwbl annisgwyl, penderfynais i ymddeol o gystadlaethau unigol!


Dyfrig Davies - Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru

Dw i'n mynd nôl i'r ganrif ddiwethaf! Tro cyntaf i mi gyrraedd (fel unigolyn) llwyfan cenedlaethol yr Urdd oedd yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus dan 25 oed yn Steddfod Abergele yn 1980.

Sulwyn Thomas oedd yn arwain ar y llwyfan ar y p'nawn Sadwrn, ac fe lawiodd yn drwm iawn, cymaint fel bo' llifogydd cefn llwyfan. Fy claim to fame ar y pryd oedd cael benthyg welis Sulwyn i fynd o'r babell ymgynnull i ochr y llwyfan!

Adre', yng Nghastell Newydd Emlyn oedd y Steddfod yn 1981. Fe lawiodd yn drwm cyn ac ar ddechrau'r Steddfod hynny hefyd.

Roedd Jên (Williams) Dafydd yn 'frenhines' yr Ŵyl a'i gwaith oedd tywys cystadleuwyr a gwobrau i'r llwyfan.

Roedd y ddau ohonom yn cymryd rhan yn y seremoni agoriadol. Cyrraedd y maes gwlyb a mwdlyd a cherdded tuag at gefn llwyfan, Jên mewn ffrog wen a chôt law ysgafn, a finne mewn dillad glaw oilskins go iawn.

Fe gwmpodd Jên ar ei hyd yn y mwd! Bu sawl un yn ei helpu i geisio cael y mwd oddi ar ei ffrog wen. Mi roedd fy ngwisg ysgol i yn gwbl ddilychwyn o dan yr oilskins!

Yn y Drenewydd yn Steddfod Maldwyn 1988, cael llwyfan ar y llefaru. Darn o waith Meg Elis, darn rwy'n ei gofio'n dda nawr... jyst piti i fi anghofio'r paragraff olaf ar y llwyfan wrth gystadlu!

Oherwydd fy oedran, dyna oedd y flwyddyn olaf i fi gystadlu. Cyfaddefiad bach, mi ro'n i wedi cael noson eitha' hwyr y noson cynt!

Mi fydd Cymru Fyw yn dod â'r diweddaraf o faes Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed o 28 Mai - 3 Mehefin.


Pynciau Cysylltiedig