'Rhaid mynd i'r afael â gwawdio'r iaith Gymraeg'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae gwawdio rheolaidd yn effeithio ar hyder siaradwyr Cymraeg, medd Liz Saville Roberts

Mae'n bwysig herio achosion o fwrw sen a gwawdio siaradwyr Cymraeg, medd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, wedi dadl ar y mater yn San Steffan ddydd Mawrth.

Cafodd y ddadl ei harwain gan Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, wedi i sylwadau gan golofnydd dadleuol y Sunday Times, Rod Liddle, godi gwrychyn nifer o bobl.

Roedd Mr Liddle yn feirniadol o bobl sy'n gwrthwynebu ail-enwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd Stuart Andrew AS, gweinidog yn Swyddfa Cymru y byddai'n ysgrifennu at y Sunday Times, ond gwrthododd alwad am newid y ddeddf i warchod yr iaith Gymraeg.

'Taro hyder pobl'

Wrth esbonio'i rheswm dros arwain y ddadl, dywedodd Ms Saville Roberts fod sylwadau fel rhai Rod Liddle "yn cael effaith ar bobl, mae'n taro hyder pobl, a hynny ar adeg ry ni eisiau tyfu'r iaith Gymraeg, da ni eisiau cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

"O gael y bwrw sen 'ma, y gwawdio rheolaidd yma, da ni'n gwybod, dros y canrifoedd a dal yn yr 21ganrif, mae'n effeithio ar sut da ni'n defnyddio'r Gymraeg, a hynny ar adeg da ni'n trio tyfu y nifer y siaradwyr Cymraeg, dwi'n meddwl ei fod o'n werth ei herio."

Image caption Dywedodd Stuart Andrew AS fod sylwadau Rod Liddle "yn hollol ddigywilydd"

Yn ei gyfraniad i'r drafodaeth, dywedodd Mr Andrew: "Er bod gennyn ni synnwyr digrifwch Cymreig a bod yr awdur yn dweud mai jôc oedd hyn, mae gen i newyddion iddo: Dydy e fawr o gomedïwr. Roedd ei erthyglau'n hollol ddigywilydd.

"Dwi'n gwybod bod awdur yr erthygl eisiau bod yn bryfoclyd. Dyna sut y mae'n ennill y cyhoeddusrwydd i gael rhagor o bobl i ddarllen ei erthyglau a bydd mwy na thebyg yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymateb heddiw, ond yn bersonol, dwi ddim eisiau rhoi sylw pellach iddo."

Canmolodd Ms Saville Roberts y ddadl yn Neuadd San Steffan, gan groesawu ymateb Mr Andrew: "Dwi'n falch yn yr ymateb ges i gan y gweinidog, ac ro'n i'n falch ag aeddfedrwydd y sgwrs gawson ni yn Neuadd San Steffan hefyd heddiw 'ma.

"Dwi yn gobeithio, fel roedd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi dweud yn ei hymateb hithau i'r digwyddiad yma, bod eisiau i ni gymryd cam yn ôl ac edrych ar beth fedrwn ni wneud fan hyn, ond gan dderbyn bod y bwrw sen a'r casineb a'r gwawdio 'ma yn annerbyniol ac mae'n rhaid i ni ffeindio ffordd o fynd i'r afael ag o.

Image caption Dywedodd James Delingpole bod y Gymraeg yn un o'r "hen bethau da" sy'n rhan o'n diwylliant, fel hela llwynogod a dawnsiau morys

Yn gynharach ddydd Mawrth ar raglen Daily Politics y BBC, dywedodd y newyddiadurwr James Delingpole fod angen i bobl Cymru gymryd sylwadau Rod Liddle "gyda phinsiad o halen", gan eu disgrifio fel jôcs diniwed.

Yn ei golofn, dywedodd Mr Liddle y byddai'n well gan y Cymry pe bai'r bont [Hafren] yn cael ei henwi'n "rhywbeth annealladwy heb eiriau go iawn, fel Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy".

Dywedodd Mr Delingpole: "Os yw'r iaith Gymraeg yn dda, yna mae'n ddigon cryf i oroesi 'chydig o dynnu coes, tynnu coes oedd bron yn annwyl gan Rod Liddle."

Ychwanegodd bod Mr Liddle wedi "cyfaddef" ers hynny ei fod "yn eithaf hoff o'r Cymry", a bod angen i bobl Cymru beidio â chymryd ei sylwadau o ddifrif.

Wrth ymateb i hynny, dywedodd Ms Saville Roberts: "Mae siaradwyr Cymraeg a'r Cymry yn cael y math yma o driniaeth yn gyson ac rydyn ni jyst i fod i'w dderbyn.

"Mae disgwyl i ni ddweud 'paid â bod mor groendenau, jôc ydy o'.

"Ond, i ddweud yn blaen, na, mae hyn yn cael effaith."

Cymru'n lle 'cwynfanllyd'

Dywedodd Mr Delingpole hefyd bod Cymru'n arfer bod yn "lle balch" ond bellach ei fod yn "lle cwynfanllyd, bron yn wladwriaeth les gwynfanllyd lle'r oll mae'r swyddogion etholedig yn gallu ei wneud yw cwyno am ba mor ddig ydyn nhw oherwydd colofnwyr cas".

Dadl Ms Saville Roberts oedd y dylai'r iaith fod yn nodwedd sy'n cael ei warchod yn yr un modd a hil, crefydd neu rywioldeb.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol