Apêl am gamera coll wedi gwrthdrawiad angheuol

apel camera Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A543 rhwng Groes a Dinbych nos Wener 20 Ebrill

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am help i ddod o hyd i gamera allai fod wedi mynd ar goll yn ystod gwrthdrawiad angheuol nos Wener 20 Ebrill.

Cafodd gyrrwr beic modur a theithiwr piliwn eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ar ffordd yr A543 rhwng Groes a Dinbych.

Cafodd dau berson oedd yn teithio yn y car Ford Focus eu cludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi bod yn chwilio am gamera Sony Cybershot arian yn yr ardal, oedd o bosib wedi ei gysylltu â llinyn oedd yn cael ei wisgo gan deithiwr y beic modur ar y pryd.

Mae teulu'r gyrrwr a'r teithiwr yn dweud fod y camera wedi ei ddefnyddio ddiwethaf 15 munud cyn y gwrthdrawiad, ac maen nhw'n awyddus iawn i gael unrhyw luniau allai fod ar y ddyfais.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod W050328.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol