Tîm rygbi byddar 7-bob-ochr Cymru yn bencampwyr byd

7-bob-ochr

Mae tîm rygbi byddar 7-bob-ochr Cymru wedi ennill Pencampwriaeth y Byd yn Awstralia.

Fe enillodd Cymru yn erbyn Lloegr yn y rownd derfynol, 21-15, wedi iddyn nhw guro Ffiji yn y rownd gyn-derfynol.

Bydd tîm byddar Cymru'n herio Awstralia yfory mewn gornest 15-bob-ochr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Fideo o ddathliadau tîm rygbi byddar Cymru, pencampwyr 7-bob-ochr y byd