Teyrnged i Hollie Kerrell ddiflannodd o Bowys

Hollie Kerrell Image copyright Llun teulu
Image caption Cafodd Hollie Kerrell ei gweld ddiwethaf yn ei chartref yn Nhrefyclo ddydd Sul

Mae teulu dynes 28 oed o Bowys y mae Heddlu Dyfed-Powys yn amau gafodd ei llofruddio wedi rhoi teyrnged iddi.

Fe wnaeth timau oedd yn chwilio am Hollie Kerrell o Drefyclo ganfod corff ddydd Iau, wedi iddi gael ei gweld ddiwethaf yn ei chartref ar ddydd Sul, 22 Ebrill.

Mae dyn 35 oed yn parhau yn y ddalfa wedi iddo gael ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o lofruddio Ms Kerrell.

Cafodd ei chorff ei adnabod yn ffurfiol ddydd Gwener.

'Caru bywyd'

Dywedodd teulu Ms Kerrell - ei mam, tri o blant a phum chwaer - ei bod yn "brydferth ac yn caru bywyd".

"Doedd dim un moment diflas gyda'n Hollie doniol ni o'ch cwmpas," meddai'r teulu mewn datganiad.

"Hi oedd y glud oedd yn dal ein teulu at ei gilydd a byddwn yn ei cholli'n ofnadwy."

Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond maen nhw'n annog unrhyw un welodd Ms Kerrell ar ôl 17:00 ddydd Sadwrn i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol