Uwch Gynghrair Lloegr: Abertawe 0-1 Chelsea

Chelsea Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Cesc Fabregas unig gôl y gêm ar ôl llai na phum munud

Mae Abertawe bwynt yn unig o safleoedd y cwymp yn yr Uwch Gynghrair ar ôl cael eu trechu gan Chelsea yn Stadiwm Liberty.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o fewn pum munud, wrth i Cesc Fabregas grymanu ei ergyd hebio i'r golwr Lukasz Fabianski i gornel uchaf y rhwyd.

Dim ond dwy ymdrech ar y targed gafodd Abertawe, ond gallan nhw fod wedi cael cic o'r smotyn yn hwyr yn y gêm wrth i Gary Cahill herio Nathan Dyer yn y cwrt cosbi.

Dydyn nhw bellach heb ennill ers chwe gêm, ac fe wnaeth y clwb sydd un safle'n is yn y gynghrair, Southampton, guro eu gêm yn erbyn Bournemouth brynhawn Sadwrn.

Yr unig ffactor beth positif i'r rheolwr Carlos Carvalhal yw y bydd yn credu y gallan nhw ennill pob un o'r tair gêm sy'n weddill o'u tymor, yn erbyn Bournemouth, Southampton a Stoke.