Tân mawr yn llosgi ar iard sborion ger Castell-nedd

Tân
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 19:20 nos Sadwrn

Fe wnaeth diffoddwyr dreulio nos Sadwrn yn brwydro'n erbyn tân mawr wnaeth gynnau mewn iard sborion yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod wedi derbyn dwsinau o alwadau oherwydd y mwg oedd yn codi ger yr A465 yn Sgiwen nos Sadwrn.

Roedd y fflamau'n gorchuddio 400 tunnell o wastraff trydanol, ac roedd criwiau tân yno nes 04:25 fore Sul.

Mae'r BBC ar ddeall bod y tân yn iard sborion Sims Metal Management.