Morgannwg 38-4 ar ddiwedd diwrnod 3

Tim Murtagh Image copyright Getty Images
Image caption Bowlio Tim Murtagh yn cipio pob un o wicedi Morgannwg hyd yma

Diwrnod digon cymysg oedd hi i Forgannwg ar drydydd diwrnod y chwarae yn Lord's yn erbyn Middlesex.

Tan fore Sul roedd 'na fawr o chwarae wedi bod oherwydd y glaw ond fe ddechreuodd Morgannwg yn gryf gan fowlio Middlesex allan am 194.

Cipiodd y capten Michael Hogan bum wiced am 49 a Timm van der Gugten bedair wiced am 63.

Ond doedd pethau ddim cystal i Forgannwg yn ystod y batiad cyntaf - colli'r wiced gyntaf yn fuan ac yna mynd o 17-1 i 23-2 ac o 34-3 i 38-4 cyn i olau gwael ddod â'r gêm i ben.

Tim Murtagh sydd wedi cipio holl wicedi Morgannwg hyd yma (4-12).

Mae'n edrych yn debygol na fydd chwarae fory chwaith oherwydd y tywydd gwael.

Middlesex 194 (42.1 pelawd): Eskinazi 94; Hogan 5-49, van der Gugten 4-63

Morgannwg 38-4 (15.5 pelawd): Murtagh 4-12

Middlesex 1 pt, Morgannwg 3