Cyngor Ynys Môn yn penderfynu cau dwy ysgol gynradd

Pencadlys Cyngor Môn

Mae Cyngor Môn wedi penderfynu cau dwy ysgol gynradd yn y sir, er gwaethaf gwrthwynebiad gan rai rhieni'n lleol.

Penderfynodd pwyllgor gwaith y cyngor mewn cyfarfod ddydd Llun i gymeradwyo cau Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, ond cadw Ysgol Henblas ar agor.

Daw hynny er gwaethaf argymhelliad gan y pwyllgor craffu y dylid cadw'r tair ysgol gynradd ar agor nes y bydd canllawiau newydd Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi.

Dywedodd y cyngor fod y penderfyniad wedi ei wneud "gyda chalon drom".

Ond mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu'r cyngor am "frysio mlaen i gau'r ysgol ychydig o wythnosau'n unig cyn y bydd Côd Trefniadaeth newydd yn dod i rym".

'Symud gyda'r oes'

Roedd yr awdurdod lleol wedi bod yn ymgynghori ynghylch y posibilrwydd o gau ysgolion Bodffordd, Corn Hir yn Llangefni, a Henblas yn Llangristiolus a symud disgyblion i ysgol ardal newydd gwerth £10m yn Llangefni.

Ond maen nhw nawr wedi penderfynu cymeradwyo'r opsiwn sydd yn cadw un o'r ysgolion hynny ar agor - cyn belled â bod safonau yn Ysgol Henblas yn gwella.

Y bwriad yw anfon disgyblion Corn Hir a Bodffordd i'r ysgol newydd yn y dref.

Dywedodd y cynghorydd Meirion Jones, sydd yn gyfrifol am y portffolio addysg, fod "nifer o resymau am y newid, gan gynnwys lleihau'r gost i bob disgybl a sicrhau'r adeiladau ysgol gorau i addysgu ein plant".

Image caption Roedd llawer o drigolion Bodffordd wedi ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn pwyso ar y cyngor i gadw'r ysgol yno ar agor

Ychwanegodd y cynghorydd Carwyn Jones: "Fel Cymry rydyn ni'n tueddu i fod ofn newid, ond mae'n rhaid symud gyda'r oes.

"Mae chwyldro cyfathrebol a technolegol wedi bod ac mae'n rhaid i ni addasu o ran y cyfleusterau sydd ar gael i'n plant."

Fe wnaeth y cynghorydd Dylan Rees ddadlau o blaid cadw Ysgol Bodffordd ar agor, gan ddweud: "Rydw i'n galw arnoch chi plîs, plîs, plîs i beidio lladd calon y pentref, yn enwedig am nad oes rhaid i chi wneud."

'Yn groes i ewyllys'

Yn dilyn y cyfarfod ychwanegodd Meirion Jones: "Nid yw'r penderfyniad i greu ysgol gynradd newydd yn ardal Llangefni wedi'i wneud ar chwarae bach.

"Mae gennym ddyletswydd, fodd bynnag, i weithredu er lles buddiannau'r ynys gyfan.

"Os ydym am ddarparu'r addysg o'r safon uchaf ar hyd y sir i gyd, bydd rhaid gwneud y defnydd gorau posib o arian Llywodraeth Cymru sydd ar gael ar hyn o bryd. Yn anffodus, nid yw'r sefyllfa sydd ohoni yn gynaliadwy."

Mynnodd Cymdeithas yr Iaith fod "achos am adeilad newydd yn Llangefni yn gwbl haeddiannol", ond nad oedd angen cau ysgolion gwledig i wireddu'r bwriad hwnnw.

"Mae'r Pwyllgor Gwaith am wneud hyn yn groes i ewyllys rhieni lleol, yn groes i welliant Pwyllgor Craffu'r Cyngor ei hun, a heb werthuso'r opsiynau eraill fel creu Ffederasiwn Ysgolion Cefni," meddai Ffred Fransis o'r mudiad.

Ychwanegodd: "Galwn ar gynghorwyr nad sydd ar y Pwyllgor Gwaith i 'alw i mewn' y penderfyniad - sy'n golygu yr aiff y penderfyniad yn ôl at y Pwyllgor Craffu ac yna i'r Cyngor llawn."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol