Masnach morol rhwng Cymru ac Iwerddon 'i barhau i dyfu'

porthladd

Mae gweinidog Brexit wedi dweud ei fod yn disgwyl i fasnach Gwyddelig drwy borthladdoedd Cymru "barhau i dyfu" wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Robin Walker AS fod "buddiannau economaidd cryf" o blaid cadw llwybrau morol Cymru ac Iwerddon ar agor.

Ychwanegodd y gweinidog wrth bwyllgor o ACau fod Llywodraeth y DU eisiau sicrhau "mynediad masnachol esmwyth a di-dariff" i'r UE, y tu allan i undeb dollau.

Ond mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud y bydd yn gwrthwynebu unrhyw gytundeb Brexit sydd yn "symud traffig oddi wrth" borthladdoedd Cymru.

'Bygythiad go iawn'

Yn ystod ymweliad â Dulyn ym mis Chwefror dywedodd Mr Jones nad oedd wedi gweld "unrhyw esiamplau" o system heb reoleiddiau ar ffiniau y tu allan i undeb dollau.

Ychwanegodd y byddai "ffin forol galed" yn "fygythiad go iawn" i economïau Cymru ac Iwerddon.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gadael marchnad sengl ac undeb dollau'r UE erbyn Mawrth 2019, ond pryder rhai yw y gallai hynny arwain at "ffin galed" rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae undeb dollau yn lleihau'r rhwystrau ariannol a gweinyddol sydd yn bodoli er mwyn gallu masnachu rhwng y gwledydd sydd yn rhan ohoni.

Image caption Mae Porthladd Caergybi yn un o'r prysuraf yn y DU

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd aelod blaenllaw o grŵp llywio Brexit Senedd Ewrop nad oedd modd bod yn "hanner beichiog" pan ofynnwyd iddo am gynlluniau Llywodraeth y DU.

"Yn sicr mae disgrifiadau ynghylch beth yw'r undeb dollau, a beth mae'n ei olygu i fod mewn marchnad fewnol," meddai Elmar Brok ASE.

"Os nad ydych chi eisiau ateb gofynion hynny, ac mae'r amodau ar gyfer undeb dollau yn glir iawn yn rhyngwladol, wedyn allwch chi ddim cael canlyniadau positif ohono.

"Byddai'n haws petawn ni mewn undeb dollau. Byddai'n llawer haws wedyn i drefnu perthynas fasnachu agosach."

'Twf i barhau'

Wrth siarad â phwyllgor Brexit y Cynulliad, dywedodd Mr Walker fod Belfast, Dulyn, Llundain a Brwsel yn "benderfynol" o osgoi creu ffin galed.

"Bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau gofalus a gwneud cyfaddawdau anodd, ond fe allwn ni ganfod ateb sydd yn sicrhau hyn," meddai.

Mynnodd nad oedd lansiad diweddar gwasanaeth fferi o Ddulyn i dir mawr Ewrop yn broblem i Gymru a'r DU, gan ddweud y byddai'r llwybr hwnnw'n parhau i fod yn un pwysig.

"Fe fydd hynny'n ychwanegu at yn hytrach na disodli llwybrau presennol a bydden i'n disgwyl gweld y fasnach sy'n mynd drwy Gymru i barhau, a pharhau i dyfu."

Image caption Pryder rhai yw y gallai ffin galed â Gweriniaeth Iwerddon wedi Brexit arwain at lai o draffig yn mynd drwy borthladdoedd Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am rôl fwy ffurfiol yn y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ar beth fydd y trefniadau a'r berthynas yn dilyn Brexit.

Fe wnaeth aelodau'r pwyllgor hefyd holi Gweinidog Swyddfa'r Cabinet Llywodraeth y DU, Chloe Smith, ar y cytundeb diweddar rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ar ddeddfwriaeth Brexit.

Gofynnodd AC Plaid Cymru, Dai Lloyd a fyddai Llywodraeth y DU yn talu sylw i'r cymal oedd yn dweud na fyddan nhw fel arfer yn gweithredu mewn meysydd o fewn pwerau'r Cynulliad.

Yn ei hymateb dywedodd Ms Smith: "Dydyn ni ddim yn credu ei bod hi'n iawn i un rhan o'r DU allu cael feto dros y trefniadau sy'n cael eu gwneud gan y gweddill."

Straeon perthnasol