Teyrngedau wedi marwolaeth beiciwr modur ger Llanrwst

Carl Vaughan Evans Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy ddydd Sul.

Bu farw Carl Vaughan Evans, 32 oed ac o ardal Llanrwst, ar safle'r gwrthdrawiad rhwng Betws-y-Coed a Llanrwst.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar y B5106 am 05:00 fore Sul.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei dad, David Thomas Evans bod Carl "yn lawer mwy na mab i mi, roedd fwy fel ffrind gorau neu frawd".

'Cofio am byth'

Mewn datganiad, dywedodd ei fam, Denise Evans a'i frawd, Cemlyn Evans: "Roedd Carl yn ddyn ifanc hapus oedd yn dad ymroddedig ac yn caru ei blant."

Ychwanegon nhw: "Roedd Carl wrth ei fodd yn gyrru ei feic modur, ac yn anffodus bu farw yn gwneud rhywbeth yr oedd yn ei garu.

"Roedd yn dad, partner, mab a brawd cariadus a byddwn ni wir yn ei fethu."

Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B5106 rhwng Betws-y-Coed a Llanrwst

Dywedodd ei bartner a mam ei blant, Debbie Ryan: "Dydw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud Carl, mae dy blant yn dy garu di gymaint, a byddwn ni'n dy fethu.

"Dwi'n addo y byddan nhw'n dy gofio di am byth - mi wnai sicrhau hynny."

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth a dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth gysylltu gyda nhw ar 101.

Straeon perthnasol