Gwrthdrawiad A483: Anafiadau difrifol i feiciwr modur

Ambiwlans awyr ger safle'r ddamwain ar yr A483 Image copyright Claire Jones/Twitter
Image caption Bu'n rhaid cau'r ffordd i'r ddau gyfeiriad er mwyn caniatáu i ambiwlans awyr lanio

Mae beiciwr modur wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ar un o ffyrdd prysuraf gogledd Cymru fore Gwener.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A483, ychydig dros y ffin yn Lloegr, am tua 08:15.

Yn ôl Heddlu Caer bu beic modur Triumph du mewn gwrthdrawiad â char Hyundai llwyd.

Dywedodd y llu bod y dyn, o Wrecsam, wedi dioddef anafiadau difrifol, ond nid rhai sy'n peryglu ei fywyd.

Bu'r ffordd ar gau yn dilyn y digwyddiad, ond mae bellach wedi ailagor.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu, ac maen nhw hefyd eisiau adnabod beiciwr modur arall oedd yn gyrru yn yr ardal ar y pryd.

Pynciau Cysylltiedig