Gwrthdrawiad A485: Plentyn mewn cyflwr difrifol

Heddlu

Mae plentyn wedi cael anafiadau sy'n peryglu ei fywyd mewn gwrthdrawiad difrifol yng Ngheredigion ddydd Gwener.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Subaru Legacy a Mitsubishi Shogun, oedd yn cludo anifeiliaid mewn trelar, yn Olmarch ar yr A485.

Cafodd dynes oedd yn gyrru'r Subaru, a'i dau o blant, eu cludo i'r ysbyty.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod gan un plentyn anafiadau difrifol.

Cafodd dau berson oedd yn teithio yn y Mitsubishi fân anafiadau, ac ychwanegodd yr heddlu na chafodd unrhyw anifeiliaid eu hanafu.

Cafodd dau ambiwlans awyr a phedwar ambiwlans ffordd eu galw i'r digwyddiad am tua 08:45.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad.