Croeso pwyllgor undebau i gyhoeddiad taliadau ffermio

defaid Image copyright Chris Jackson

Mae undebau amaeth wedi rhoi croeso pwyllog i gyhoeddiad ar sut y bydd taliadau ffermio'n cael eu gweinyddu yng Nghymru ar ôl Brexit.

Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru'n derbyn taliadau blynyddol drwy Gynllun Taliad Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.

Ddydd Mawrth fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths y byddai taliadau'n parhau fel yr arfer yn 2018 a 2019.

Yna rhwng 2020 a 2025 byddai "trawsnewidiad graddol, aml haen" yn digwydd tuag at system newydd.

Newid graddol

Mae ffermwyr yn Lloegr wedi cael sicrwydd y bydd taliadau'n parhau ar y lefel UE presennol hyd nes etholiad cyffredinol 2022.

"Bydd Brexit yn dod â newidiadau sylweddol ac mae'n rhaid cael cyfnod trawsnewid dros gyfnod o flynyddoedd fydd wedi'i gynllunio'n dda," meddai Ms Griffiths.

"Dwi wastad wedi dweud na ddylen ni golli ceiniog o gyllid o ganlyniad i adael yr UE ac fe fyddai'n parhau i ymladd i warchod dosraniad llawn a theg o gyllid i gynnal rheoli tir yng Nghymru.

"O 2020 fe fydd pwerau'n dychwelyd o Ewrop. Yna dwi'n rhagweld trawsnewidiad graddol dros amser o'r cynllun presennol i rai newydd."

Image caption Dywedodd Lesley Griffiths y byddai'r newidiadau'n cael eu cyflwyno'n raddol

Dywedodd Ms Griffiths y gallai ffermwyr hefyd orfod gwneud pethau'n wahanol er mwyn derbyn cyllid yn y dyfodol.

"Dyma'r unig ffordd y gallwn ni sicrhau bod ein tir yn cynhyrchu mwy o fudd," meddai.

"Mae angen sector amaethyddol lewyrchus a gwydn yng Nghymru, waeth beth ydy natur Brexit.

"Er mwyn gwneud hyn yn realiti mae'n rhaid i ni newid y ffordd y byddwn ni'n cynorthwyo ffermwyr.

"Rydyn ni felly'n bwriadu cael dwy elfen o gymorth, un i weithredoedd economaidd ac un i gynhyrchu nwyddau cyhoeddus."

'Mwy o fanylion'

Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.

Ond ychwanegodd: "Bydd 'a yw cyfnod trawsnewid o bum mlynedd o 2020 ymlaen yn briodol ai peidio' yn dibynnu ar nifer o amgylchiadau dydyn ni ddim yn gwybod yn eu cylch eto.

"Mae hyn yn cynnwys natur unrhyw gytundeb ar ôl Brexit gyda'r UE, ac yn union beth fyddwn ni'n trawsnewid tuag ato."

Image caption Mae angen gweld rhagor o fanylion am y cynlluniau, meddai Glyn Roberts

Ychwanegodd llywydd NFU Cymru, John Davies fod y cyfnod trawsnewid hyd at 2025 yn "hanfodol nid yn unig i fusnesau ffermio ond i'r economi wledig" yn ehangach.

"Ddylen ni ddim tanbrisio'r effaith y gallai gadael yr UE a newidiadau i'r perthnasau masnachu presennol a phenderfyniadau polisi eu cael ar economi wledig Cymru," meddai.

"Ddylen ni ddim gwneud y penderfyniadau sy'n ein hwynebu ni ar chwarae bach ac mae'n rhaid ystyried eu heffeithiau'n ofalus."

Dywedodd Ms Griffiths wrth ACau y byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf ac y byddai cyfnod ymgynghori'n dilyn.

Straeon perthnasol