Marwolaeth dyn o Gaerdydd yn Lerpwl: Arestio dau arall

Trywanu Lerpwl Image copyright Llun Teulu

Mae plismyn sy'n ymchwilio i drywanu angheuol dyn o Gaerdydd yng nghanol Lerpwl wedi arestio dau berson arall.

Bu farw Fatah Warsame, 20, wedi'r digwyddiad yn oriau man fore Sul, 6 Mai.

Cafodd dyn 33 oed a dynes 24 oed eu harestio yn ardal Toxteth ddydd Sadwrn ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau wrth i'r ymchwiliad barhau.

Image caption Bu swyddogion fforensig yn archwilio'r ardal yng nghanol Lerpwl

Mae tri dyn gafodd eu harestio yr wythnos ddiwethaf - 20, 21 a 24 oed - wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad hefyd.

Yn y cyfamser mae Heddlu Glannau Mersi yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol