Halfpenny allan o'r gêm gynderfynol y Scarlets

halfpenny

Ni fydd Leigh Halfpenny ar gael i chwarae dros y Scarlets yn rownd gynderfynol y Pro-14 yn erbyn Glasgow nos Wener oherwydd anaf.

Mae cefnwr Cymru a'r Llewod wedi rhwygo llinyn y gar.

Daeth newyddion ychydig gwell i dîm Wayne Pivac gyda'r newyddion fod cefnwr arall y Scarlets, Johnny McNicholl, wedi gwella o anaf difrifol i'w ysgwydd, ac y gallai fod ar gael i chwarae am y tro cyntaf ers mis Chwefror.

Mewn cynhadledd newyddion fore Mawrth, dywedodd Pivac: "Rhwyg fechan sydd gan Leigh felly gydag unrhyw lwc fe fydd e'n iawn ar gyfer y ffeinal os ddown ni drwy'r rownd gynderynol.

"Mae Johnny wedi bod yn ymarfer yn dda iawn, iawn dros y pythefnos diwethaf.

"Y rhwystr olaf iddo oedd ymarfer corfforol llawn... mae e wedi gwneud hynny bellach ac wedi dod drwyddi'n iawn felly fe fydd e ar gael."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol