'Angen adroddiadau a thargedau' ar gyfer parthau menter

Parthau Menter Image copyright Getty Images

Mae pwyllgor o ACau wedi galw am adroddiadau blynyddol a thargedau ar gyfer parthau menter Cymru, yn dilyn pryder nad oes digon o dystiolaeth i farnu eu gwerth.

Mae dros £220m wedi ei wario ar gynnig cymorth i fusnesau mewn wyth lleoliad, gan ganolbwyntio ar fentrau penodol.

Dywedodd cadeirydd pwyllgor economi'r Cynulliad, Russell George, fod angen cynorthwyo ardaloedd difreintiedig gydag amcanion clir, a ffordd o fonitro'u cynnydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

'Diffyg tystiolaeth'

Mae'r parthau menter, gafodd eu sefydlu yn 2012, wedi'u lleoli yn Ynys Môn, Eryri, Glannau Dyfrdwy, Aberdaugleddau, canol Caerdydd, Maes Awyr Caerdydd, Glyn Ebwy a Phort Talbot.

Ymhlith y diwydiannau sy'n cael eu cynorthwyo yn y parthau mae ceir, gwasanaethau ariannol, ynni gwyrdd, a'r diwydiant awyr.

Chwe blynedd yn ddiweddarach fodd bynnag, dywedodd y pwyllgor fod eu hymchwiliad wedi canfod darlun o berfformiad cymysg, oedd yn golygu ei bod yn anodd barnu a oedd y polisi'n gweithio ai peidio.

"Ar y cyfan dyw'r syniad o Barthau Menter ddim wedi profi'i hun eto er bod Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £200m arnynt," meddai Mr George, AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn.

"Mae'r diffyg tystiolaeth sydd ar gael wedi'u gwneud hi'n anodd iawn i ni werthuso'u cyfraniad i economi Cymru yn llawn."

Ychwanegodd Mr George fod y pwyllgor yn cydnabod "gwaith da" byrddau'r parthau, ond fod angen i gymorth rhanbarthol yn y dyfodol osod "targedau clir a realistig, yn ogystal â data priodol manwl a thryloyw ar gyfer monitro".

Mae gweinidogion wedi eu hannog i ailfeddwl cynllun i uno byrddau Môn ac Eryri, gosod cyfeiriad ac amserlen glir i fwrdd Port Talbot, a gweithio gyda chynghorau lleol i sicrhau bod lleoliadau priodol ar gael er mwyn denu'r cwmnïau sydd eu hangen.

Ym mis Chwefror dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wrth y pwyllgor ei fod yn bwriadu dileu pedwar o'r wyth bwrdd er mwyn arbed costau, er y byddai'r wyth parth menter yn parhau i weithredu.

Ym mis Hydref y llynedd fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig alw'r parthau yn wastraff arian cyhoeddus, gan honni nad oedd creu neu warchod 10,700 o swyddi yn "dangos llawer" o ystyried maint y gwariant.

Straeon perthnasol