Bachgen tair oed wedi disgyn o raeadr uchaf Cymru

Rhaeadr Pistyll Image copyright Geograph
Image caption Mae'r rhaeadr yn 73m (240 troedfedd) ar ei uchaf

Mae bachgen tair oed a'i fodryb yn "lwcus i fod yn fyw" ar ôl disgyn wrth geisio dringo i fyny ochr rhaeadr uchaf Cymru.

Roedd y ddau yn ymweld â Rhaeadr Pistyll yn Llanrhaeadr-ym-mochnant, Powys, ddydd Sul pan wnaeth y bachgen ddisgyn dros 40m (150 troedfedd) i'r pwll ar y gwaelod.

Fe wnaeth ei fodryb hefyd lithro wrth iddi geisio gafael yn y bachgen, ond fe lwyddodd i lanio ar goeden ac osgoi disgyn i'r gwaelod.

Dywedodd Phill Facey, sy'n rhedeg bwyty ger y rhaeadr, ei fod wedi rhuthro yno ar ôl "clywed sgrechian".

'Dylai fod wedi marw'

"Mae'r rhaeadr yn 240 troedfedd ar ei uchaf, ac ar yr ochr chwith mae 'na lethr cas, sydd heb lwybr troed," meddai.

"Peidiwch gofyn pam, ond fe benderfynodd y modryb a'i nai i'w dringo, ac fe wnaethon nhw ddringo i fyny dwy ran o dair o'r rhaeadr at sil."

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r rhaeadr yn denu ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn

Dywedodd Mr Facey bod ymwelydd arall, oedd yn bryderus am ddiogelwch y pâr, wedi dweud y dylen nhw ddod i lawr, ond wedi hyn fe ddisgynnodd y bachgen.

"Fe wnaeth y bachgen ifanc hedfan trwy'r awyr, rhyw 120 i 140 troedfedd, yn syth i mewn i'r rhaeadr," meddai.

"Mae 'na greigiau'r holl ffordd lawr ond llwyddodd i osgoi'r ochrau, ac aeth yn syth i mewn i'r pwll.

"Wrth iddo ddisgyn fe wnaeth ei fodryb geisio gafael ynddo ac fe wnaeth hi ddisgyn hefyd, ar gangen coeden.

"Nes i feddwl 'dylai'r bachgen yma fod wedi marw, a'i fodryb hefyd'. Dyw pethau ddim yn digwydd fel yna fel arfer - dau o bobl yn disgyn ac yn llwyddo i osgoi trychineb."

'Gwyrth'

Cafodd ambiwlans awyr a pharafeddyg eu gyrru yno i drin y pâr, o Lerpwl, ond doedd dim angen eu cymryd i'r ysbyty.

Dywedodd Mr Facey mai "marc bach ar ei foch" yn unig oedd gan y bachgen.

Fe ddisgrifiodd y doctor y digwyddiad fel "gwyrth" meddai.