'Diffyg cymorth iechyd meddwl' i fyfyrwyr yn y Gymraeg

iechyd meddwl

Dydy gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl myfyrwyr drwy'r Gymraeg ddim yn digwydd yn ddigon cyflym nac yn ddigon eang, yn ôl undebau.

A hithau'n wythnos iechyd meddwl, mae swyddogion o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC), sy'n cynrychioli holl undebau myfyrwyr Cymru, wedi sgwennu at Lywodraeth Cymru'n mynegi pryderon am gyllido, diffyg staff cymwys a diffyg gwasanaethau digidol.

Yn y llythyr at yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething mae UCMC yn dweud eu bod yn "croesawu ymrwymiad y llywodraeth i gyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel, a bod y Gymraeg yn greiddiol i hynny".

"Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad yw cynnydd yn y maes hwn yn digwydd yn ddigon cyflym ac yn ddigon eang er mwyn diwallu anghenion y Gymru fodern sydd ohoni," meddai'r mudiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod darparu gwasanaeth yn y Gymraeg yn "allweddol" i'w gwasanaethau iechyd meddwl.

'Gwaith i'w wneud eto'

Mae llythyr UCMC yn tynnu sylw at rai meysydd penodol.

"Mae Safonau'r Gymraeg yn gosod sail dda o ran cynyddu'r ddarpariaeth, ond os na chyllidir gwasanaethau yn ddigonol ac yn strategol ar draws Cymru, bydd y dasg o gyrraedd y safonau yn anos," meddai.

"Er ein bod yn falch o glywed am ddatblygiadau yn y maes hwn ym Mhowys, mae'n glir fod gwasanaethau digidol - sydd yn hollbwysig i genedlaethau iau - ar eu hôl hi. Mae wir angen blaenoriaethu'r gwaith hwn.

"Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn ffordd wych o gyfoethogi'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl, ond heb ariannu prosiect neu raglen Cymorth Cyntaf ar draws Cymru, mae'n anodd dychmygu sut gellir cyrraedd y nod o wlad ble mae arlwy o opsiynau ar gael i bawb.

"Ymhlith carfannau penodol o bobl - ond yn wir ymysg y boblogaeth gyffredinol - mae stigma ynghylch iechyd meddwl yn dal i fod yn her sylweddol.

"Yn hynny o beth mae llawer o waith i'w wneud eto i sicrhau fod pobl yn teimlo'n gyfforddus yn trafod eu hiechyd meddwl, yn cael mynediad i wasanaethau, ac yn cefnogi eraill."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Mirain Llwyd Roberts, swyddog y Gymraeg UCMC bod "egluro teimladau mewn ail iaith yn rwystr"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o safon uchel yn canolbwyntio ar anghenion unigolion, ac mae darparu gwasanaethau yn y Gymraeg yn allweddol i hynny.

"Mae ein fframwaith Mwy Na Geiriau yn gosod camau ar gyfer gwella gwasanaethau iaith Gymraeg o fewn iechyd a gofal cymdeithasol ac rydyn ni'n monitro cynnydd yn gyson. Byddwn yn ymateb i'r llythyr yn y man."

'Anodd esbonio'

Mae Lois Parri newydd orffen ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor ac wedi bod yn delio â gorbryder ers iddi fod yn bump oed. Mae wedi profi oedi wrth geisio cael triniaeth yn Gymraeg.

"Dwi ddim yn meddwl bod [yr oedi] yn effeithio'r cyflwr, ond mi oedd o'n effeithio pa mor effeithiol oedd y therapi achos mae o'n rhywbeth sy'n anodd ei esbonio yn eich iaith eich hun hyd yn oed," meddai.

"Felly roedd gorfod poeni be' o'n i'n ddweud a'i gyfieithu o i gyd, a dydy pethau ddim yn cyfieithu yn union... doedd o ddim mor rhwydd ag buasai wedi gallu bod."

Image caption Mae Lois Parri'n dweud ei bod yn haws iddi fynegi ei theimladau yn y Gymraeg

Ar ôl cyrraedd y brifysgol, mae hi bellach wedi penderfynu ceisio mynd i'r afael â'r problemau ei hun, yn rhannol oherwydd yr oedi a brofodd hi wrth geisio cael gwasanaeth yn ei mamiaith pan oedd yn iau.

"Dydw i ddim yn siŵr os fyswn i'n mynd yn ôl at yr NHS nac yn breifat achos roedd o i gyd yn Saesneg," meddai.

"Dwi'n byw fy mywyd yn Gymraeg, dwi'n delio efo fy mhroblemau yn Gymraeg, ac mae m'ond yn rhesymol mod i angen eu trafod nhw yn Gymraeg."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol