Gofal iechyd meddwl y gogledd yn 'annheg'

Iechyd meddwl

Mae cleifion sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn y gogledd yn wynebu "rhwystrau diangen" i dderbyn cefnogaeth, medd un elusen.

Ychwanegodd Mind Cymru fod y gwahaniaeth rhwng lefel y cymorth sydd ar gael ar draws y wlad yn "bryderus iawn".

Dywedodd un claf, Laura Burton o Gaergybi, Ynys Môn, fod y gefnogaeth oedd ar gael yn y de o'i gymharu â'r gogledd yn "annheg".

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfadde' bod angen gwelliannau.

Canslo apwyntiadau

Roedd Ms Burton yn diodde' o iselder er pan yn 16 oed, a dywedodd ei bod wedi cael trafferth cael cymorth meddygol pan waethygodd y cyflwr.

"Pan gefais i'r diagnosis, doedd dim ymgynghorydd seiciatryddol ar Ynys Môn. Fe gefais i chwe mis o gael apwyntiadau'n cael eu canslo," meddai.

"Mae pobl yn credu nad yw iechyd meddwl yn broblem yng ngogledd Cymru... mae'n ymddangos nad ydyn nhw'n credu hynny tan i rywun ladd ei hun.

"Does dim normalrwydd pan mae'n dod yn fater o iechyd meddwl yng ngogledd Cymru."

Image copyright Laura Burton
Image caption Laura Burton yw'r unig un o'i chydweithwyr sy'n byw yng ngogledd Cymru

Mae Ms Burton bellach yn gweithio fel swyddog gydag elusen Amser i Newid Cymru, ond yn dweud mai hi yw'r unig berson o'r elusen sy'n byw yn y gogledd a bod mwyafrif y gwaith yn digwydd yn y de.

'Annerbyniol'

Ychwanegodd elusen Mind Cymru fod y gwasanaethau sydd ar gael i bobl yn y gogledd yn "annerbyniol".

Dywedodd pennaeth polisi'r elusen, Simon Jones: "Fe ddaeth arolwg diweddar i'r casgliad bod llai na 10% o siaradwyr Cymraeg yn cael cynnig therapi yn eu mamiaith.

"Mae hynny'n ychwanegu rhwystr diangen i bobl sy'n ceisio cael y gefnogaeth sydd angen pan mae ei angen o.

"Dros y blynyddoedd diweddar, mae cannoedd o bobl wedi gorfod croesi'r ffin o'r gogledd i Loegr am nad yw gwasanaethau ar gael yn lleol."

Andy Roach yw cyfarwyddwr iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a dywedodd: "Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod pobl sy'n profi problem iechyd meddwl yn cael cefnogaeth amserol mor agos i'w cartref ag sy'n bosib."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Cymru gyfan yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru."

Straeon perthnasol