Dyn wedi disgyn o glogwyn ar draeth yn Ynys Môn

Porth-y-post Image copyright Geograph
Image caption Fe wnaeth y dyn ddisgyn o glogwyn ar draeth Porth-y-post ger Bae Trearddur

Mae dyn wedi cael ei hedfan i'r ysbyty ar ôl iddo ddisgyn o glogwyn ar draeth yn Ynys Môn brynhawn Gwener.

Cafodd timau achub Gwylwyr y Glannau eu gyrru o Gaergybi a Bae Cemaes i helpu'r gwasanaeth ambiwlans yn dilyn y digwyddiad ym Mhorth-y-post, ychydig i'r gogledd o Fae Trearddur, toc wedi 17:00.

Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn ambiwlans awyr.

Does dim gwybodaeth eto am gyflwr y dyn.