Gwlad yr Haf yn curo Morgannwg

James Hildreth's knock of 159 surpassed his previous best of 151 against Scotland in 2009 Image copyright Rex Features
Image caption Roedd batio Hildreth yn drech na Morgannwg

Colli'n drwm oedd hanes tîm criced Morgannwg yng Ngwlad yr Haf ddydd Sul.

Roedd 372 o rediadau am saith wiced, sef sgôr Gwlad yr Haf, yn dasg rhy fawr ac yr oedd batiad rhagorol Hildreth yn sgorio 159 yn dorcalonnus i'r tîm o Gymru.

Er i Ingram sgorio 85 i Forgannwg pan syrthiodd ei wiced ef 206 am 5, daeth ymdrech y Cymry i ben a chollwyd 5 wiced am ychydig dros 80 rhediad.

Roedd pawb allan am 289, a Morgannwg felly wedi colli'r gêm undydd yng Nghwpan Undydd Brenhinol Llundain o 83 rhediad.