Ymchwil cudd: Hela moch daear 'mor boblogaidd ag erioed'

Helfa moch daear
Image caption Dyma'r tro cyntaf i helfa anghyfreithlon gael ei ffilmio'n gudd ers i'r Ddeddf Gwarchod Moch Daear ddod i rym yn 1992

Mae ymchwil cudd gan BBC Cymru'n awgrymu fod hela moch daear gyda chŵn yr un mor boblogaidd ag erioed, er gwaethaf deddfwriaeth i warchod y creaduriaid.

Fel rhan o ymchwiliad chwe mis gan y rhaglen materion cyfoes, Wales Investigates, mae ffilmio cudd yn dangos dau gang yn ymhél â'r arfer - y tro cyntaf i weithgareddau o'r fath gael eu ffilmio ers i'r Ddeddf Gwarchod Moch Daear ddod i rym ym 1992.

Ac mae'r rhaglen yn datgelu fod Cymru a rhannau o'r Gororau yn fannau arbennig o boblogaidd ar gyfer hela moch daear yn anghyfreithlon.

Mae'n broblem yng Nghymru, medd un o reolwyr yr RSPCA, am fod natur "bellennig" daearyddiaeth Cymru yn ei gwneud hi'n haws i'r gangiau fynd ati.

Image caption Yn ôl Ian Briggs o'r RSPCA mae "cannoedd" o unigolion yn mynd allan yn rheolaidd i dargedu bywyd gwyllt

Dywedodd Ian Briggs, pennaeth uned gweithredoedd arbennig yr RSPCA: "Mae'n gyffredin ar draws y DU cyfan. Fe wyddom fod 'na ddwsinau, cannoedd o unigolion - dynion - yn mynd allan, bob wythnos, jest i dargedu moch daear, llwynogod, beth bynnag. Maen nhw'n byw ac yn bod er mwyn mynd â'u cŵn i gefn gwlad er mwyn lladd bywyd gwyllt."

Mae'r rhaglen yn datgelu bod 'na rwydwaith o helwyr anghyfreithlon o wahanol rannau o dde Cymru, ac yn dangos pa mor greulon mae anifeiliaid gwyllt yn cael eu trin - a'r cŵn sy'n cael eu defnyddio i'w lladd.

Mae un o arweinwyr y rhwydwaith wedi ei gael yn euog mewn llys o hela moch daear yn anghyfreithlon a'i wahardd yn 2011 rhag cadw cŵn am oes. Mae'n cael ei weld yn y rhaglen yn cloddio brochfa yn Sir Benfro gyda chŵn, gan ddweud mai ef yw perchennog y cŵn.

Ar y diwrnod hwnnw, er gwaethaf ymdrechion gang o bedwar o ddynion, mae'r mochyn daear yn dianc. Ond ar ail achlysur, fe gafodd dau ddyn eu ffilmio'n tyrchu mochyn daear ifanc o'r ddaear ac yn gadael i'w cŵn ymosod arni, cyn ei ladd maes o law gyda rhaw.

Image caption Mae difrodi neu ddinistrio brochfa, neu darfu ar fochyn daear pan mae mewn brochfa, yn drosedd

Mae'r rhaglen hefyd yn dangos anafiadau dychrynllyd y mae'r helwyr yn eu hachosi i gŵn. Mae un aelod o'r gang wedi ei recordio'n honni ei fod wedi saethu cŵn oedd heb wneud eu "gwaith" yn unol â'i ddymuniad.

Mae'r cŵn yn cael eu trin fel unrhyw dwlsyn gwaith, yn ôl y milfeddyg Mike Jessop, sydd wedi rhoi tystiolaeth fel arbenigwr mewn nifer o achosion llys yn ymwneud â lles anifeiliaid.

"Maen nhw'n cael eu taflu i lawr tyllau, mae'n rhaid iddyn nhw wneud eu gwaith," meddai, ar ôl gweld lluniau'r rhaglen. "Os nad ydyn nhw'n gwneud eu gwaith maen nhw'n ddiwerth. Maen nhw ond yn ddefnyddiol i'r bobl yma os maen nhw'n cael eu gwthio i'r eithaf.

"Dyma'r math o hela anifeiliaid roedden ni'n meddwl oedd dan ryw fath o reolaeth erbyn hyn - mae hyn yn ei gwneud hi'n glir nad dyna'r achos."

Mae'r ddeddf yn atal:

  • lladd neu anafu moch daear;
  • difrodi neu ddinistrio brochfa;
  • tarfu ar fochyn daear pan mae mewn brochfa; a
  • thramgwyddau'n ymwneud ag erledigaeth.

Mae hela'r rhan fwyaf o famaliaid gwyllt gyda chŵn hefyd yn anghyfreithlon.

Mae un math o dyrchu llwynogod yn gyfreithlon dan amodau llym, ac mae 'na nifer o dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hela o'r fath.

Mae'r rhaglen wedi gweld negeseuon ar y gwefannau yma gan yr arweinydd gang oedd wedi ei gael yn euog o hela moch daear yn anghyfreithlon, sy'n amlygu ei fod yn cymryd rhan yn yr helfeydd ac yn bridio cŵn ifanc er ei fod wedi ei wahardd rhag cadw cŵn.

Mae'r unigolyn dan sylw yn gwadu honiadau'r rhaglen.

Image caption Mae'n rhaid cadw cofnod o nifer yr achosion o hela moch daear yn anghyfreithlon, medd Sue Hayman, llefarydd amgylchedd y Blaid Lafur yn San Steffan

Yn ôl llefarydd amgylchedd y Blaid Lafur yn San Steffan, Sue Hayman AS mae 'na gwestiynau ynghylch effeithioldeb cosbi troseddwyr, gan fod arwyddion nad ydy'r drefn bresennol yn atal unigolion rhag parhau i hela'n anghyfreithlon.

Does dim rhaid i heddluoedd gofnodi nifer yr achosion o hela moch daear i'r Swyddfa Gartref, na chanlyniadau'u hymchwiliadau, ac yn ôl y Blaid Lafur mae angen i hynny newid.

Dywedodd Ms Hayman: "Os ydyn ni wirioneddol am fynd i'r afael â rhywbeth mae'n rhaid gwybod beth yw hyd a lled y broblem."

Image caption Dywed yr RSPCA fod natur "bellenig" rhannau o Gymru'n golygu bod helfeydd anghyfreithlon yn digwydd "ymhell o olwg y cyhoedd"

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fe gafwyd 13 o bobl yn euog o dorri'r Ddeddf Gwarchod Moch Daear yn 2016 - pedwar yng Nghymru a'r gweddill yn Lloegr.

Ond mae'n ymddangos mai nifer fach iawn o achosion sy'n dod i sylw'r heddlu, ac mae'r RSPCA'n apelio am help y cyhoedd.

Dywedodd Ian Briggs: "Maen nhw ymhell o olwg y cyhoedd... rhaid i ni gael y wybodaeth gan ffrindiau, teulu, cymdogion sy'n gwybod beth mae'r bobl yma'n ei wneud."

BBC Wales Investigates: 'Exposed: The Secret World of Badger Baiters', BBC One Wales, 22:30 nos Fawrth.

Straeon perthnasol