Cyhoeddi KeolisAmey fel cwmni trenau newydd Cymru

trenau South Eastern Image copyright Keolis
Image caption Mae KeolisAmey eisoes yn rhedeg rhai gwasanaethau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai cwmni KeolisAmey sydd wedi cael y cytundeb i redeg gwasanaethau trenau Cymru.

Wedi i un cwmni dynnu nôl o'r broses dendro ers iddo gychwyn, dau gwmni oedd yn y ras am y cytundeb i olynu Trenau Arriva Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am wasanaethau Cymru a'r Gororau ers 15 mlynedd.

Bydd y cytundeb newydd yn dod i rym yn Hydref 2018, ac fe fydd hefyd yn golygu bod y cwmni'n gyfrifol am Fetro De Cymru.

Y cwmni arall yn y ras oedd MTR o Hong Kong.

Mae KeolisAmey yn gyfuniad o ddau gwmni. Mae Keolis yn gwmni o Ffrainc, a dyma'r cwmni preifat mwyaf i redeg gwasanaethau trenau cyhoeddus yno, ond mae tri chwarter y cwmni yn berchen i SNCF - rheilffordd y wladwriaeth yn Ffrainc.

Er mai cwmni Prydeinig oedd Amey yn wreiddiol, fe gafon nhw'u prynu gan gwmni Ferrovial o Sbaen 15 mlynedd yn ôl. Maen nhw'n un o brif gyfranddalwyr maes awyr Heathrow.

Terfyn ar elw

Dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price mai'r bwriad oedd cysylltu pob rhan o Gymru, ac y byddai mwy o bwyslais ar deithio hamdden ac ar yr henoed.

Bydd hefyd terfyn ar faint o elw sy'n cael ei ganiatáu, gydag unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth.

Mae disgwyl i'r cytundeb newydd olygu bod y cwmni buddugol yn cymryd rheolaeth o 124 milltir (200km) o drac oddi wrth Network Rail, gan olygu'r gallu i uwchraddio'r llwybrau.

Mae bwriad hefyd i sicrhau fod gwerth £5bn o fuddsoddiadau dros 15 mlynedd yn dod o fewn cyrraedd cwmnïau lleol bach a chanolig.

Image caption Mae KeolisAmey eisoes yn gyfrifol am drenau DLR (dociau) Llundain a Metrolink Manceinion

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Alistair Gordon, prif weithredwr Keolis UK: "Er na fydd y newidiadau yn digwydd dros nos, fydd dim modd adnabod y rheilffordd ymhen pum mlynedd diolch i weledigaeth Llywodraeth Cymru."

Ychwanegodd prif weithredwr Amey, Andy Milner: "Wrth adeiladu ar ein partneriaeth lwyddiannus gyda Keolis, sydd eisoes wedi ein gweld yn rhedeg dau wasanaeth rhagorol - Metrolink Manceinion a DLR Llundain (rheilffydd y dociau) - mae'n anrhydedd cael rhedeg y gwasanaeth newydd i Gymru a'r Gororau."

Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick:

Heb os mae cyhoeddi enw'r cwmni fydd yn rhedeg trenau Cymru am y 15 mlynedd nesaf yn foment o'r pwys gwleidyddol mwyaf.

Trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus Cymru oedd un o addewidion allweddol Llafur yn yr etholiad Cynulliad diwethaf, ac fe fydd eu gallu i wneud hynny yn un o feini prawf allweddol yr etholiad nesaf.

Oni welir gwelliannau pendant ar lawr gwlad yn ystod y tair blynedd nesaf fe fydd y gwrthbleidiau yn colbio'r llywodraeth, a chyda'r rhan fwyaf o'r pwerau perthnasol wedi eu trosglwyddo i Gaerdydd, fe fydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn y cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd - neu sydd ddim wedi digwydd.

Pan fydd manylion y cytundeb yn cael eu cyhoeddi ymhen pythefnos gallwn ddisgwyl y bydd yn cynnwys rhai elfennau y gellir eu gwireddu mewn byr o dro fel arwydd o'r hyn sydd i ddod. A fydd y rheiny'n ddigon i argyhoeddi'r cyhoedd? Pwy a ŵyr?

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ei fod yn gyfle "unwaith mewn cenhedlaeth" i ddylunio gwasanaeth fydd yn ateb y galw cynyddol o ran nifer y teithwyr a'u disgwyliadau.

"Dyma'r tro cyntaf ers datganoli i Gymru gael y cyfle i ddylunio rhywbeth i'w hun," meddai Mr Price.

"Fe wnaethon ni etifeddu beth oedd gennym ni gynt. A bydd llawer o bobl wedi profi hyn ddydd i ddydd - cyrraedd gorsaf drenau dim ond i ganfod nad ydyn nhw'n gallu dal trên."

Does dim disgwyl manylion llawn am y fasnachfraint newydd tan fis nesaf, a bydd y cwmni aflwyddiannus yn cael 10 diwrnod i apelio'r penderfyniad.

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Trenau Arriva Cymru'n rhoi'r gorau i redeg gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau eleni

Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud y bydd eu holl weithwyr yn gallu trosglwyddo draw i'r cwmni newydd pan fydd y fasnachfraint yn newid dwylo ym mis Hydref.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi ac isadeiledd, Russell George, ei fod yn "foment bwysig i Gymru".

Mynnodd fod teithwyr yn disgwyl "gwelliannau" i'r gwasanaeth yn syth, a'u bod yn betrusgar am allu Llywodraeth Cymru yn dilyn adroddiad beirniadol diweddar am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio â Chylffordd Cymru.

"Mae gan y Llywodraeth Lafur record sâl iawn o ran cyflawni prosiectau mawr yng Nghymru, ac rydyn ni ond yn gobeithio er lles y miliynau o deithwyr ar draws y wlad eu bod wedi dysgu eu gwersi," meddai Mr George.

'Diffygiol'

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth a'r economi, Adam Price fod y broses ymgeisio wedi bod yn "ddiffygiol o'r cychwyn", ac y dylai'r rheilffyrdd ddod i berchnogaeth gyhoeddus.

"Mae hyn yn cynnwys natur y cyhoeddiad - does dim esgus dros gael datganiad un dudalen ychydig cyn y gwyliau ar gyfer prosiect £5bn," meddai.

"Dyw'r llywodraeth ddim hyd yn oed wedi cyhoeddi eu Gwahoddiad i Dendr, ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny heddiw er mwyn i ni wybod yn union beth wnaethon nhw ofyn amdano."

Dywedodd undeb yr RMT, sydd yn cynrychioli gweithwyr trafnidiaeth, fod Llywodraeth Cymru wedi'u cyfyngu yn eu gallu i ddod â'r rheilffyrdd ddod i berchnogaeth gyhoeddus gan "siaced gaeth ddeddfwriaethol" Llywodraeth y DU.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol