Teulu'n olrhain hanes diflaniad a marwolaeth gefeilliaid

Jacqueline a Neil Coleby
Image caption Roedd mam Jacqueline a Neil Coleby yn rhoi dillad ar y lein i sychu pan ddiflannodd y ddau tra'n chwarae y tu allan

Mae teulu gefeilliaid tair oed fu farw ar ôl diflannu o ffermdy ym mryniau Eryri yn Ionawr 1943 wedi ymweld â'u bedd a dysgu mwy am yr hanes gan ddyn lleol fu'n ymchwilio i'r hanes.

Diflannodd Neil a Jacqueline Coleby tra'n chwarae y tu allan i ffermdy Penffordd Coch uwchben Penmaenmawr lle roedden nhw'n byw gyda'u mam.

Cafodd Audrey Coleby ei holi gan dditectifs Scotland Yard ar amheuaeth o'u llofruddio, a bu 600 o ddynion, milwyr a gwaetgwn (bloodhounds) yn chwilio am y plant - un o'r cyrchoedd mwyaf o'r fath erioed yng Nghymru.

Ond cafwyd hyd i'r ddau wedi marw o effeithiau'r oerfel ar ôl crwydro dros filltir o'u cartref.

Image caption Stori bapur newydd adeg y diflaniad

Roedd David Jones wedi clywed sawl fersiwn o'r hanes wrth gael ei fagu ym Mhenmaenmawr, ac ar ôl ymddeol aeth ati i edrych ar gofnodion swyddogol.

Dywedodd fod ditectifs Scotland Yard yn rhan o'r ymgyrch ddeuddydd wedi diflaniad y gefeilliaid.

"Yn y byd sydd ohoni, mae'n debygol y bydden ni wedi dod o hyd iddyn nhw yr un noson," meddai Mr Jones, dreuliodd 40 mlynedd gyda gwasanaeth cŵn achub rhyngwladol.

"Ond pwy all ddweud a fydden ni wedi achub eu bywydau."

Mae Mr Jones yn amau bod y plant wedi crwydro mor bell o'u cartref oherwydd ymarferion y fyddin ar y bryniau, dros ddwy flynedd cyn diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Image caption Fe ymchwiliodd David Jones i'r achos ar ôl clywed yr hanes yn wreiddiol wrth gael ei fagu ym Mhenmaenmawr

O edrych ar ddatganiadau'r fyddin a'r heddlu, mae tystiolaeth fod milwyr wedi gweld y plant yn ystod sesiwn hyfforddi ymosodiad, meddai Mr Jones.

"Yn lle cael gafael arnyn nhw a gofyn beth oedden nhw'n da yna, yn dair a hanner oed ac ar ben eu hunain, fe wnaethon nhw'u gyrru'n bellach i fyny [Mynydd Tal Y Fan, yn hytrach na thuag at adref] gyda'r holl saethu.

"Cafodd Mrs Coleby ei holi gan Scotland Yard ddydd a nos. Fe barodd un cyfweliad saith awr, gyda'r gred ei bod wedi llofruddio'r plant.

"Fe wnaethon ni ddod â'r chwilio i ben am y diwrnod tra'u bod yn ei holi, oedd yn wallgof. Fyddai hynny ddim yn digwydd heddiw. Mae'n hanes creulon iawn."

Image caption Aeth y plant ar goll o Ffermdy Penffordd Coch ger Penmaenmawr

Prin oedd rhieni'r gefeilliaid yn trafod yr hanes gyda'u plant eraill, ac fe gafodd Neil a Jacqueline eu claddu heb garreg bedd ym mhentref Dwygyfylchi.

Cafodd y teulu eu gyrru i'r ardal fel faciwîs oherwydd y rhyfel, gan fod Mrs Coleby yn hanu o Landudno.

Tra bod hithau a'r gefeilliaid yn y ffermdy roedd ei mab 10 oed, Carl gyda'i nain a'i daid yng Nghonwy a'i merch chwech oed yn byw gyda modryb. Roedd eu tad gyda'r Awyrlu yng Nghaeredin.

Cafodd eu plentyn ieuengaf, Peter Coleby ei eni yn 1952, a dywedodd yntau bod y marwolaethau wedi creithio'i rieni i'r graddau eu bod wedi'i chael hi'n amhosib rhoi carreg ar fedd y plant.

Image caption Cafodd Peter Coleby ei eni naw mlynedd wedi i'w frawd a'i chwaer farw

"Dydyn ni ddim yn credu eu bod wedi ymweld â'r bedd erioed. Roedd yn rhy boenus. Doedden nhw ddim yn gallu ymdopi â'r peth," meddai.

"Ro'n i'n clywed ambell fanylyn am yr hyn a ddigwyddodd... ond wnaethon ni ddim eistedd lawr a chael gwybod 'dyma ddigwyddodd' sy'n biti.... ond na, doedd mam byth yn siarad amdano."

Ymchwil Mr Jones wnaeth gadarnhau lle roedd bedd y gefeilliaid ym mynwent Llangwstennin, Dwygyfylchi, ac mae carreg fedd newydd yn dangos eu henwau, dyddiad geni a dyddiad eu marwolaeth.

Fe deithiodd 10 o aelodau'r teulu o wahanol rannau o'r DU i ymweld â'r bedd a'r ffermdy fore Gwener a gosod blodau yn yr ardal lle welwyd y plant ddiwethaf, cyn mynd i gyflwyniad am yr achos ym Mhenmaenmawr nos Wener.

Image caption Dydy brawd y gefeilliaid ddim yn credu bod eu rhieni wedi ymweld â'r bedd erioed