Stemar olwyn yn suddo oddi ar arfordir Caergybi

A Mississippi-style paddle steamer sinking into the Irish Sea Image copyright RNLI/Jay Garden
Image caption Roedd dyfnder y dŵr lle suddodd y stemar yn 50m

Mae Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau fod stemar olwyn oedd yn cael ei thywys i Iwerddon wedi suddo oddi ar arfordir Caergybi.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod yr MV Oliver Cromwell wedi mynd i drafferthion tua 12 milltir i'r gorllewin o Ynys Lawd ychydig cyn 14:00 ddydd Gwener.

Cafodd bad achub bob tywydd Caergybi ei alw i'r digwyddiad ond doedd hi ddim yn bosib achub y stemar.

Fe suddodd oddeutu tair awr yn ddiweddarach.

Image copyright Mike Nash
Image caption Roedd y stemar 96 oed yn cael ei thynnu i Coleraine pan suddodd

Dywed Gwylwyr y Glannau bod y gwasanaethau brys wedi dod o hyd i bawb oedd ar y stemar a bod 'na ddim llygredd o ganlyniad i'r digwyddiad.

Cafodd yr Oliver Cromwell ei hadeiladu gyntaf yn 1922 a'i throi yn westy afon yn 1993.

Roedd y stemar ar ei ffordd i'w chartref newydd yn Coleraine yng ngogledd Iwerddon wedi iddi dreulio'r chwarter canrif diwethaf yn nociau Caerloyw.

Llynedd cafodd ei rhoi ar werth a'r pris gofyn oedd £245,000.

Image copyright RNLI/Jay Garden
Image caption Erbyn 16:20 roedd y stemar wedi suddo'n llwyr