Gŵyl Seiclo Aberystwyth eleni fydd 'y mwyaf eto'
- Cyhoeddwyd

Wythfed Gŵyl Seiclo Aberystwyth fydd y mwyaf eto, yn ôl y trefnwyr.
Dros y penwythnos bydd cymal o daith broffesiynol y 'Tour Series' yn dychwelyd i Aberystwyth.
Bu siom y llynedd wedi i'r gyfres benderfynu peidio ymweld â Chymru.
Mae'r unig gymal yng Nghymru yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
'Enwau mawr'
Dywedodd Nia Peris, aelod o bwyllgor trefnu Gŵyl Seiclo Aberystwyth: "Rydyn ni'n ehangu ein darpariaeth i gwmpasu seiclo ar wahanol lefelau yn y gymuned, o blant i deuluoedd a merched.
"Mae 'na ddigwyddiadau mwy hamddenol yn ogystal â dwy ras i seiclwyr proffesiynol - fel gŵyl mae hi wirioneddol yn cynnig rhywbeth i bawb."
Roedd y trefnwyr yn siomedig gyda phenderfyniad y Tour Series i beidio cynnwys cymal Aberystwyth y llynedd, ac mae'r gwirfoddolwyr yn falch bod y ras yn dychwelyd eleni.
"Mae denu cymal y Tour Series yn bwysig er mwyn cynnig ysbrydoliaeth i blant a phobl sy'n seiclo," meddai Ms Peris.
"Mae'r seiclwyr proffesiynol, yr enwau mawr, hefyd yn denu cynulleidfa yma."
Yn ôl gwaith ymchwil, mae'r ŵyl yn werth oddeutu £300,000 i'r ardal.
Ychwanegodd Ms Peris: "Dwi'n gobeithio y bydd twf eto eleni, a dwi'n meddwl y bydd hi'n denu mwy o bobl yma ac yn rhoi mwy yn ôl i'r economi'n lleol."