Tân yn difrodi tŷ ym Mochdre
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i dri phlentyn ac un oedolyn gael triniaeth ysbyty am effeithiau anadlu mwg wedi i dân ddinistrio tŷ ym Mochdre yn Sir Conwy.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod pedwar o bobl wedi gorfod mynd i'r ysbyty ar ôl i dân ddinistrio'r tŷ yn llwyr ar ffordd Beechmere Rise toc wedi 07:30.
Mae'n debyg bod y plant wedi cael gadael yr ysbyty a does dim gwybodaeth am anafiadau'r oedolyn.
Cafodd dau dŷ arall ddifrod wrth i'r mwg ledu.
Mae ymchwiliad i'r tân ar y gweill.