'Marwolaeth dyn yn Y Rhath yn achos o lofruddiaeth'

Stryd Oakfield
Image caption Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Oakfield, yn ardal Y Rhath tua 02:20 fore Sul

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod yn trin marwolaeth dyn yng Nghaerdydd fore Sul fel achos o lofruddiaeth.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Oakfield, yn ardal Y Rhath, o'r ddinas am tua 02:20.

Maent yn awyddus iawn i siarad â dyn a oedd yn siarad â'r dioddefwr tra'n aros i'r ambiwlans gyrraedd.

Mae dyn 26 oed a dynes 25 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Pynciau Cysylltiedig