Dyn o Bowys yn pledio'n ddieuog i lofruddio ei wraig

Hollie Kerrell Image copyright Llun teulu
Image caption Fe wnaeth Hollie Kerrell ddiflannu o'i chartref ar 22 Ebrill

Mae dyn 35 oed o Bowys wedi pledio'n ddieuog i lofruddio ei wraig, oedd yn fam i dri o blant.

Fe blediodd Christopher Kerrell o Drefyclo yn ddieuog yn Llys y Goron Caerdydd i lofruddio Hollie Kerrell, 28 oed, ar 22 Ebrill.

Cafodd corff Ms Kerrell, oedd hefyd o Drefyclo, ei ganfod pedwar diwrnod wedi iddi ddiflannu o'i chartref fis diwethaf.

Fe blediodd yn ddieuog hefyd i ail gyhuddiad o ladd Ms Kerrell yn anghyfreithlon.

Fe gafodd Mr Kerrell ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf ym mis Awst, a cafodd dyddiad ei bennu ym mis Hydref ar gyfer yr achos yn ei erbyn.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol