Cyhoeddi enw dyn fu farw wedi ymosodiad yn Y Rhath

Stryd Oakfield
Image caption Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Oakfield am tua 02:20 fore Sul

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw wedi ymosodiad yn ardal Y Rhath, Caerdydd yn oriau man fore Sul.

Bu farw Damian John Hill, 39 oed o ardal Adamsdown, yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol wedi'r ymosodiad.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Oakfield yn Y Rhath am tua 02:20.

Mae ditectifs, sy'n trin yr achos fel un o lofruddiaeth, wedi cael caniatâd gan ynadon i gael mwy o amser i holi dynes 33 oed sydd wedi ei harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Rhyddhau dau

Mae dyn 26 oed a dynes 25 oed gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth wedi cael eu rhyddhau'n ddi-gyhuddiad.

Mae'r heddlu yn awyddus iawn i siarad â dyn a oedd yn siarad â'r dioddefwr tra'n aros i'r ambiwlans gyrraedd.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol