Lluniau: Gŵyl y Gelli 2018

Bu tref fach Y Gelli Gandryll ym Mhowys yn croesawu rhai o sêr y byd unwaith eto ar gyfer yr ŵyl lenyddol.

Y ffotograffydd Aled Llywelyn fu'n rhannu ei luniau o Ŵyl y Gelli 2018 gyda Cymru Fyw.

464 gray line
Alex Jones Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Roedd cyflwynydd The One Show, Alex Jones, yn sgwrsio gyda Chelsea Clinton ar ddiwrnod olaf yr ŵyl
Benedict Cumberbatch Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Roedd yr actor Benedict Cumberbatch ymhlith y sêr oedd yn 'perfformio' llythyrau yn y digwyddiad Letters Live
Gelli Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Dychmygwch y byd...
David Walliams Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Roedd David Walliams yn dathlu 10 mlynedd fel awdur
Germaine Greer Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Roedd Germaine Greer yn rhoi darlith yn ymdrin â'r testun sensitif o dreisio
Gelli Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Ymgolli yn Y Gelli...
Margaret Atwood, The author of The Handmaid's Tale Walks though the Hay festival followed by handmaids from here famous book Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Margaret Atwood, awdures y llyfr 'The Handmaid's Tale', yn cerdded drwy'r Gelli gyda rhai o'r cymeriadau y gwnaeth hi ei hun ei chreu
Bear Grylls Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Yr anturiaethwr Bear Grylls yn rhoi cyngor ar sut i aros yn fyw. Be' arall?
Gelli Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Mae'r Gelli Gandryll yn Sir Frycheiniog yn enwog am ei siopau lyfrau
Owen Sheers Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Roedd hi'n wythnos brysur i'r awdur a'r bardd Owen Sheers o'r Fenni
Judith Kerr Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Pwy sy'n cofio Y Teigr a Ddaeth i De? Bu awdures y llyfr, Judith Kerr, yn darllen y gwreiddiol - The Tiger Who Came to Tea - 50 mlynedd ers ei gyhoeddi
Darllen yn yr haul Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Darllen yn yr haul mewn gŵyl lenyddol - byw'r freuddwyd
David Davis Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Roedd Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yno i wrando ar ddarlith o dan y teitl 'Saving Britain'. Guto Harri sydd yng nghefn y llun - bu'n cymryd rhan mewn sawl sesiwn yn yr ŵyl.
Darllen Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Mae'r dyn yma i weld yn fodlon iawn gyda'i lyfr
Gemma Cairney Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Yr awdures, colofnydd a chyflwynydd Gemma Cairney
Gwaith blinedig Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Amser i gael hoe fach ar ôl diwrnod o ddiwylliant
Y Fonesig Jacqueline Wilson Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Mae'r awdures Jacqueline Wilson wedi cyhoeddi dros 100 o lyfrau, yn cynnwys y gyfres Tracy Beaker i bobl ifanc
Gordon Brown Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Cyn brif weinidiog y DU, Gordon Brown, yn siarad ar ddiwrnod olaf Gŵyl y Gelli 2018

Efallai o ddiddordeb...

Pynciau Cysylltiedig