Arestio dau mewn cysylltiad â llofruddiaeth Y Rhath

Stryd Oakfield
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Oakfield toc wedi 02:00 fore Sul

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 39 oed yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Bu farw Damian John Hill o ardal Adamsdown yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad ar Stryd Oakfield yn ardal Y Rhath toc wedi 02:00.

Mae'r dyn 19 oed a dynes 34 oed sydd wedi cael eu harestio yn parhau yn y ddalfa ac yn cael eu holi gan yr heddlu.

Mae dynes 33 oed oedd eisoes wedi'i harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad bellach wedi'i rhyddhau dan ymchwiliad.

Ond mae dyn 26 oed a dynes 25 oed, oedd hefyd wedi cael eu harestio'n wreiddiol, wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion oedd yn yr ardal ar y pryd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol