Pryd ar glud: 'Bwyd neilltuol o dda'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryd ar glud: 'Bwyd neilltuol o dda'

1 Mehefin 2018 Diweddarwyd 21:08 BST

Mae Wil Davies o bentref Beulah yng Ngheredigion yn dweud fod gwasanaethau pryd ar glud yn hollbwysig i bobl hŷn er mwyn gallu cadw'u hannibyniaeth.

Mae Mr Davies, 94, a'i wraig Rachel yn cael gwasanaeth pryd ar glyd preifat o gaffi Emlyn, Tanygroes yn achlysurol, pan nad yw eu merch yn medru darparu bwyd.

Daw hyn yn sgil rhybudd y gallai pobl oedrannus fod "mewn mwy o berygl" wrth i gynghorau gael gwared â gwasanaethau pryd ar glud.