Dyn wedi marw mewn digwyddiad â thractor yn Sir Ddinbych

Heddlu Image copyright Bc

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod dyn 22 oed wedi marw mewn digwyddiad â thractor yn Sir Ddinbych.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Prion ger Dinbych brynhawn Sadwrn.

Bu farw dyn 22 oed mewn digwyddiad gyda thractor ac mae'r achos wedi'i gyfeirio at y crwner a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Does dim gwybodaeth bellach ar hyn o bryd ac mae'r heddlu'n gofyn am breifatrwydd i'r teulu.