Morgannwg yn colli o bedair wiced

Gareth Berg celebrates Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Gareth Berg yn ddraenen yn ystlys Morgannwg gydol y dydd

Roedd yna siom i dîm criced Morgannwg ddydd Sul wrth iddynt golli o bedair wiced yn erbyn Hampshire yn Sain Helen, Abertawe yng ngêm undydd Cwpan Royal London.

Ar waethaf 64 rhediad cadarn Colin Ingrham a 36 mentrus Graham Wagg a roddodd 227 rhediad i'r tîm Cymreig - colli oedd eu hanes.

Llwyddodd Brad Taylor (54 rhediad) a Gareth Berg (52 rhediad) sgorio 85 rhediad yn ddi-guro mewn 14.3 pelawd am y seithfed wiced i Hampshire.

Cyrhaeddodd yr ymwelwyr 229 felly am chwe wiced a hynny mewn 43.2 o belawdau.

Felly mae Hampshire wedi ymestyn eu blaenoriaeth ar frig eu grŵp cynghrair yn y gystadleuaeth.

Morgannwg 227 i gyd allan, Hampshire 229 am 6.