Galw Josh Adams a Tomas Francis i garfan rygbi Cymru

Josh Adams a Tom Francis Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r asgellwr Josh Adams a'r prop Tomas Francis wedi cael eu galw i ymuno â charfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm brawf yn Yr Ariannin.

Roedd y ddau wedi eu henwi yn wreiddiol yng ngharfan Warren Gatland, ond fe dynnodd y ddau allan gan nad oedd y gêm yn erbyn De Affrica.

Roedd buddugoliaeth Cymru o 22-20 dros Dde Affrica nos Sadwrn yn Washington DC y tu allan i ffenestr gemau rhyngwladol swyddogol World Rugby.

Mae Adams yn dod fewn i'r garfan yn lle Steff Evans wnaeth anafu ei goes yn y gêm.

Bydd Cymru yn wynebu'r Ariannin ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin a 16 Mehefin.