Dau yn y ddalfa wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth Y Rhath

Damian John Hill Image copyright SOU
Image caption Bu farw Damian John Hill o'i anafiadau yn yr ysbyty

Mae dyn a dynes wedi eu cadw yn y ddalfa ar ôl cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn ymosodiad ar stryd yng Nghaerdydd dros wythnos yn ôl.

Bu farw Damian John Hill, 39, wedi'r ymosodiad yn ardal Y Rhath toc wedi 02:00 fore dydd Sul diwethaf.

Fe ymddangosodd Kalib Steven Facey, 19, a Philomena McDonagh, 33, o flaen llys ynadon fore Llun ac mae disgwyl iddynt nawr ymddangos yn llys y Goron ar 6 Mehefin.

Mae'r ddau hefyd wedi eu cyhuddo o ladrata.

Mae'r heddlu yn dal i geisio dod o hyd i bawb oedd yn ardal Stryd Oakfield pan ddigwyddodd yr ymosodiad ac yn apelio ar dystion i gysylltu.

Pynciau Cysylltiedig