Cyfri'r Geifr

Ar y cyfan dyw'r BBC ddim yn talu rhyw lawer o sylw i arolygon barn. Mae'n bysedd wedi cael eu llosgi'n rhy aml ar hyd y degawdau i ni wneud hynny.

Mae 'na ambell i eithriad i'r rheol. Yr arolwg mawr ar noson etholiad yw'r un amlwg ond mae'r gorfforaeth ei hun o bryd i gilydd yn comisiynu arolygon gan gymryd gofal i gadw draw o fwriadau pleidleisio gan amlaf.

Efallai eich bod wedi gweld dros y Sul canlyniadau arolwg sylweddol iawn o agweddau pobol Lloegr tuag at ei hunaniaeth a'u cyfundrefnau llywodraethol. Heddiw cyhoeddwyd canlyniadau arolygon cyffelyb o bobol Cymru a'r Alban.

Oherwydd natur yr arolwg dyw e ddim yn bosib cymharu'r canlyniadau ag arolygon Cymreig blaenorol - ond mae yn rhoi modd i ni gymharu agweddau yn y tair gwlad ac mae 'na ambell i ganlyniad sy'n haeddu ystyriaeth.

Un o'r dadleuon mwy haniaethol dros ddatganoli yn ôl yn y nawdegau oedd y byddai'n fodd cynyddu hyder ymhlith pobl Cymru gan ddelio â rhyw fath o gymhlethdod israddoldeb hanesyddol.

Mae'r arolwg yn awgrymu bod hynny wedi digwydd - i raddau o leiaf.

Yn Lloegr roedd bron i hanner y rhai a holwyd yn credu bod dyddiau gorau ei gwlad yn perthyn i'r gorffennol. Dim ond 17% oedd yn credu bod y gorau eto i ddod.

Yng Nghymru ar y llaw arall roedd 33% yn disgwyl dyddiau gwell i ddod a dim ond 17% yn hiraethu am ryw fawredd a fu.

Yn hynny o beth roedd y ffigyrau Cymreig llawer yn debycach i rai'r Alban na rhai Lloegr ac roedd yr un peth yn wir mewn nifer o feysydd eraill.

Mae'n rhy gynnar i ddweud bod y 'gloomy Celt' ystrydebol yn diflannu yn ôl i'r niwl ond diawch, mi ydyn ni mewn gwell cyflwr na'n cymdogion!

Mae hi wedi mynd yn ystrydeb braidd i ddweud bod gwleidyddiaeth Cymru a Lloegr yn ymdebygu'n fwyfwy â'i gilydd. Mae 'na seiliau seffolegol i'r haeriad hwnnw ond mae'r arolygon diweddaraf yma'n awgrymu bod pethau ychydig bach yn fwy cymhleth.

Holwyd 1036 o oedolion yng Nghymru gan YouGov ar ran y BBC rhwng y 25ed o Ebrill a'r 1af o Fai.