Dyn yn ddifrifol wael wedi tân mewn tŷ ym Methesda

Ffordd Coetmor Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Erw Las, Ffordd Coetmor fore Mawrth

Mae dyn yn ei 50au yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ar ôl cael ei achub o dân mewn tŷ ym Methesda yng Ngwynedd fore Mawrth.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r tŷ yn Erw Las, Ffordd Coetmor am tua 10:40.

Fe gafodd dau griw o Fangor a Llanberis eu gyrru i ddiffodd y fflamau a bu'n rhaid cludo'r dyn i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Dywedodd llefarydd bod y gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ar y cyd â Heddlu'r Gogledd.