CLA Cymru yn galw am wahanu Defra i sicrhau eglurder

  • Cyhoeddwyd
Rebecca Williams
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cymdeithas Tirfeddianwyr Cymru, nad yw Defra'n "deall y gwahaniaeth" rhwng cynrychioli Lloegr a'r DU ar adegau

Mae yna alw am wahanu adran Llywodraeth Prydain sy'n delio â materion gwledig, er mwyn cael eglurder ar pryd mae'n cynrychioli Prydain, a phryd mae'n siarad dros Loegr yn unig.

Yn ôl Cyfarwyddwr Cymdeithas Tirfeddianwyr Cymru (CLA Cymru), man angen sefydlu corff fyddai'n mynd i'r afael â materion yn ymwneud â Lloegr yn unig.

Dywedodd Rebecca Williams y byddai gwahanu Defra - yr adran yn San Steffan sy'n gyfrifol am amaeth a'r amgylchedd - "yn gwneud pethau tipyn haws wrth symud ymlaen".

Dywedodd llefarydd ar ran Defra eu bod nhw'n "gweithio yn agos" gydag awdurdodau datganoledig ac yn cyfarfod "yn gyson".

'Diffyg parch'

Y pryder yw nad yw Defra yn aml yn gwahaniaethu rhwng materion sy'n ymwneud â Lloegr yn unig, neu sy'n cwmpasu'r holl feysydd datganoledig.

Mae Ms Williams o'r farn fod achos Defra yn enghraifft o'r cwestiynau pwysig sydd angen eu gofyn am sut mae'r DU yn mynd i weithio wedi Brexit.

Mae'n cynnig gwahanu Defra yn ddwy, gyda gweinidog yn gofalu am ffermio yn Lloegr, ac wedyn ysgrifennydd uwchben hynny fyddai'n gofalu am wledydd y DU i gyd.

Dywedodd: "Ar hyn o bryd, dyw Defra ac adrannau eraill yn San Steffan ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng pryd maen nhw'n cynrychioli Lloegr a phryd 'ma nhw'n cynrychioli'r Deyrnas Unedig."

Ychwanegodd: "Maen nhw'n defnyddio'r ddau derm yn gymysg yn eu dogfennau, a dyw hynny ddim digon da, ddim yn dangos y parch tuag at ddatganoli sydd angen."

Yn ôl Ms Williams, dyw'r mater ddim yn un amaethyddol yn unig, ond bod amaeth "ar flaen y gad" wrth ei drafod yn agored.

'Dim ffydd yn Defra'

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Undeb Amaethwyr Cymru, Alan Davies bod diffyg parch tuag at y "gwahaniaeth yn amaeth a ffermio rhwng Cymru a Lloegr", gan wneud pethau'n "anoddach" wrth geisio cael sicrwydd am yr hyn fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Er ei fod yn beirniadu'r corff, nid oedd am weld Defra yn gwahanu, ond yn hytrach y corff yn "dysgu gwers".

Ychwanegodd bod Defra yn gweld Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon fel "gwledydd ar wahân" a "grŵp y mae'n rhaid iddyn nhw edrych ar ôl rhywsut, ond dydyn nhw ddim yn rhan ganolog o'r trafodaethau".

"Dydy hynny ddim yn helpu creu unrhyw ffydd 'da ni bod llais Cymru a llais ffermwyr Cymru yn cael eu cydnabod yn syniadau a sylwadau Defra ar hyn o bryd ac mae'n rhaid i ni newid hynna."

Wrth ymateb i'r sylwadau, pwysleisia llefarydd ar ran Defra eu bod nhw'n trafod yn gyson gydag awdurdodau datganoledig.

Yn ôl y llefarydd mae gweinidogion wedi bod i Gymru a'r Alban o fewn y deg wythnos ddiwethaf er mwyn cynnal cyfarfodydd.

Ychwanegodd: "Cafodd mesur Egwyddorion a Llywodraethu Amgylcheddol ei ddatblygu yn dilyn trafodaethau hirfaith gyda phob gweinyddiaeth yn y DU

"Byddwn yn parhau i gydweithio er mwyn llunio polisi i amddiffyn ac i harddu ein hamgylchedd."