Dyn wedi marw yn Sir Gâr ar ôl i'w gar daro polyn lamp

Heol Llandeilo Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Llandeilo yn Cross Hands

Mae dyn wedi marw ar ôl i'w gar daro polyn lamp yn Sir Gaerfyrddin ddydd Iau.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y cerbyd wedi gadael y ffordd ar Heol Llandeilo yn Cross Hands am 16:30 cyn taro polyn lamp a dod i stop ger tŷ.

Un cerbyd oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad, a bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Doedd neb yn y tŷ ar y pryd, a doedd dim difrod sylweddol iddo.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw dystion i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.