Pencampwriaeth Rygbi Dan-20 y Byd: Cymru 18-17 Japan

Dewi Cross Image copyright Huw Evans agency
Image caption Fe wnaeth cais Dewi Cross ymestyn mantais Cymru i 18-10

Cicio'r cefnwr Cai Evans oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Japan ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan-20 y Byd ddydd Iau.

Sgoriodd Japan dri chais yn erbyn dau Cymru, gyda'r asgellwr Halatoa Vailea yn rhwygo amddiffyn Cymru am yr un cyntaf.

Daeth ymateb gwych gan Harri Morgan cyn i'r bachwr Miyu sgorio cais arall i roi Japan yn ôl ar y blaen, ond fe wnaeth trosiad a dwy gôl gosb gan Evans sicrhau bod Cymru ar y blaen o 13-10 ar yr egwyl.

Yn yr ail hanner daeth cais i Dewi Cross i ymestyn mantais Cymru, ond fe groesodd Siosaia Fifita am drydydd cais Japan gyda throsiad Yuto Mori yn sicrhau diweddglo nerfus.

Gydag wyth pwynt o'i droed, roedd cicio Evans - mab i gyn-asgellwr Cymru a'r Llewod Ieuan Evans, yn allweddol i Gymru wrth i Japan fethu gyda phob cic ond un at y pyst.

Ar ôl curo Awstralia yn eu gêm gyntaf cyn colli o 42-10 yn erbyn Seland Newydd yn yr ail gêm, mae gobeithion Cymru o orffen yn ail yn y grŵp yn dibynnu ar ganlyniad y gêm hwyr rhwng y Crysau Duon ac Awstralia.

Pynciau Cysylltiedig