Cyngor Wrecsam yn rhoi £25,000 i gadw'r CAB lleol ar agor

Canolfan Cyngor ar Bopeth Wrecsam Image copyright Google
Image caption Roedd Canolfan Cyngor ar Bopeth Wrecsam wedi delio â hyd at 5,000 o achosion y llynedd

Mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno i roi £25,000 i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) lleol i sicrhau ei fod yn aros ar agor am y flwyddyn nesaf.

Daeth taliadau'r ganolfan i ben yn ôl ym mis Mawrth oherwydd polisi'r cyngor o beidio ag ariannu sefydliadau trydydd parti.

Roedd y ganolfan wedi dweud na fyddai modd iddyn nhw barhau i weithredu ymhellach na mis Mehefin heb gefnogaeth ariannol allanol.

Roedd yr un taliad o £25,000 yn un o bedwar opsiwn gan y cyngor ynglŷn â dyfodol ariannol CAB Wrecsam.

Cafodd y penderfyniad i ddod ag ariannu sefydliadau trydydd parti i ben ei wneud yn ôl ym mis Hydref 2015.

Fel rhan o'r penderfyniad hwnnw cytunwyd y byddai taliadau i'r CAB yn lleihau dros gyfnod o ddwy flynedd, cyn dod i ben eleni.

Opsiynau'r cyngor

  • Parhau gyda'r cynllun gwreiddiol i beidio ag ariannu sefydliadau trydydd parti, ac felly dod a'r taliadau i'r CAB i ben;
  • Cyfrannu £50,000 am 12 mis cyn cynnal arolwg ar ddiwedd y flwyddyn ganlynol 2019/20;
  • Cynnig taliadau o £25,000 am y flwyddyn fyddai'n galluogi'r CAB i gynnig tua 5,000 o gyfweliadau - yn ôl y gost gyfartalog am gynnal cyfweliad;
  • Parhau i ariannu ar lefel y flwyddyn flaenorol o £23,600 er mwyn ymestyn y broses o ddiddymu'r cymorth ariannol.

'Adnodd hanfodol'

Cyn y gwrandawiad ddydd Mawrth dywedodd cynghorwyr Plaid Cymru y dylai'r cyngor ddefnyddio arian - sydd wedi'i arbed drwy beidio â chael prif weithredwr - i gadw'r ganolfan ar agor.

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, Marc Jones, fod y ganolfan yn Wrecsam yn "adnodd hanfodol" yn yr ardal, a'i fod wedi delio â mwy na 5,000 o achosion llynedd.

"Mewn cyfnod lle mae mwy o bobl yn ei gweld hi'n anodd cadw to uwch eu pen, canfod gwasanaethau a derbyn cyngor annibynnol, mae hi'n hanfodol fod profiad ac arbenigedd y CAB ar gael," meddai.

Yn ôl Mr Jones mae'r cyngor wedi arbed hyd at £100,000 drwy beidio â chyflogi prif weithredwr yn y naw mis diwethaf, a dylai'r cyngor dderbyn un o'r opsiynau "rhesymol" sydd wedi eu cynnig.