Canred Usman Khawaja yn rhoi hwb i obeithion Morgannwg

Usman Khawaja Image copyright Getty Images
Image caption Mae Usman Khawaja wedi chwarae 33 o gemau prawf dros Awstralia

Fe lwyddodd Usman Khawaja i sgorio canred ar ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg i sicrhau diwrnod olaf cyffrous yn erbyn Sir Warwick.

Fe wnaeth batiwr Awstralia sgorio 125 i helpu ei dîm i gyfanswm o 323, gan osod targed o 294 i'r tîm cartref.

Daeth y trydydd diwrnod i ben gyda Sir Warwick ar sgôr o 25-0.

Cafodd Khawaja help gan y capten Chris Cooke, gyda sgôr o 59 rhediad.

Fe wnaeth Khawaja ymuno â Morgannwg fel chwaraewr T20, ond mae'n llenwi lle Shaun Marsh am dair gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd hefyd ar ôl i yntau gael ei alw yn ôl i dîm undydd Awstralia.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol