Cynghrair Europa: Clybiau Cymru'n dysgu eu ffawd

Cynghrair Europa Image copyright EPA

Bydd Y Bala yn teithio i San Marino tra bod Derwyddon Cefn yn herio clwb o Lithuania yn rownd ragarweiniol Cynghrair Europa.

Fe fydd Y Bala yn herio Tre Fiori, gyda'r cymal cyntaf oddi cartref ar 28 Mehefin.

Bydd Derwyddon Cefn yn wynebu clwb Trakai, gyda'u gêm gartref nhw yn yr ail gymal ar 6 Gorffennaf.

Mae'r Bala yn cystadlu yng Nghynghrair Europa am eu pumed tymor, tra bo Derwyddon Cefn wedi cyrraedd Ewrop am yr ail waith yn eu hanes.

Fe fydd enillwyr Cwpan Cymru, Cei Connah, yn ymuno â'r gystadleuaeth yn y rownd nesaf - y rownd ragbrofol gyntaf.

Bydd pencampwyr y gynghrair, Y Seintiau Newydd, yn dechrau eu hymgyrch Ewropeaidd nhw yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Pynciau Cysylltiedig