Cynllun uno grantiau yn 'berygl' i bobl fregus

Digartrefedd Image copyright Getty Images
Image caption Mae pryder y bydd llai o gefnogaeth i wasanaethau sydd weithiau'n cael eu hystyried yn llai deniadol na rhai eraill

Mae 10 corff sy'n delio gyda digartrefedd a thai yng Nghymru wedi rhybuddio y gallai cynlluniau diweddaraf Llywodraeth Cymru beryglu'r gefnogaeth ar gyfer pobl fregus.

Mae disgwyl i weinidogion benderfynu a ddylid uno'r 10 grant cymorth presennol o fewn un cynllun yn yr hydref - er bod pryderon y bydd gwasanaethau digartrefedd wedyn yn gorfod cystadlu am eu harian.

Ond mae elusennau'n galw arnyn nhw i ystyried gwarchod y pedair rhaglen digartrefedd a thai o fewn yr un cynllun - tra'n rhoi'r rhaglenni eraill o fewn cynllun ar wahân.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn dal i drafod y cynigion gyda phartneriaid perthnasol.

Gwasanaethau 'amhoblogaidd'

Mae elusennau'n poeni y gallai grantiau digartrefedd a thai presennol, sy'n cefnogi dros 60,000 o bobl y flwyddyn, fod yn y fantol.

Mae Cymorth Cymru, sy'n cynrychioli darparwyr gwasanaethau digartrefedd a thai, yn galw ar y llywodraeth i ailystyried eu cynigion i greu'r un cynllun newydd fyddai'n caniatáu symud arian rhwng grantiau presennol - sy'n amrywio o'r rhaglenni Dechrau'n Deg i Atal Digartrefedd.

Mewn adroddiad ddydd Mercher, maen nhw'n cynnig bod y Llywodraeth yn ystyried dau gynllun newydd - un i gwmpasu'r pedwar grant sy'n ymwneud â digartrefedd a thai, a'r llall i gwmpasu'r grantiau sy'n weddill.

Mae saith awdurdod lleol eisoes yn barod i brofi'r system newydd yn 2018/19, gyda'r hyblygrwydd i symud arian rhwng y 10 grant presennol - Pen-y-bont, Caerdydd, Conwy, Merthyr, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae'r adroddiad yn dweud y byddai'r cynlluniau'n rhoi "gwasanaethau tai ar gyfer grwpiau sydd weithiau'n cael eu hystyried yn 'amhoblogaidd' mewn cystadleuaeth am arian â gwasanaethau sy'n fwy deniadol yn wleidyddol, fel blynyddoedd cynnar a gofal plant".

"Ry'n ni'n credu bod risg mawr yn hyn i ddigartrefedd a chefnogaeth yn ymwneud â rhoi cartrefi i bobl yng Nghymru."

'Dal i ystyried opsiynau'

Y sefydliadau y tu ôl i'r adroddiad yw Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth i Ferched Cymru, Shelter Cymru, Rough Sleepers Cymru, Tai Pawb, EROSH De Cymru, CIH Cymru, End Youth Homelessness Cymru, a Housing Justice Cymru.

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, roedd cynnydd o 58% yn nifer y bobl a gafodd eu hasesu i fod yn ddigartref gan awdurdodau lleol rhwng 2015/16 a 2016/17.

Image copyright PA
Image caption Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried un grant fyddai'n cwmpasu 10 grant cymorth presennol

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn dal i ystyried yr opsiynau.

"Ry'n ni'n ymroddedig i sicrhau bod pobl fregus yn cael eu cefnogi wrth gael gafael ar dai o safon da a'u helpu i gadw eu tenantiaeth.

"Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu ni i gyrraedd y nod hwnnw.

"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Cymorth Cymru, i ddatblygu cynlluniau ac fe fyddwn ni cyn hir yn cyhoeddi ein hymateb i adroddiad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y rhaglen."

Straeon perthnasol